Cryfhau Cymuned Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cymuned academaidd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn cryfhau’n sylweddol unwaith eto eleni diolch i Gynllun Staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cymeradwywyd pedair o swyddi darlithio mewn amrywiol ddisgyblaethau sef y Gymraeg, Cysylltiadau Cyhoeddus, Meddygaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Gobeithir y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wrth eu gwaith fis Medi a byddant yn cael eu cyllido hyd at 2017.

Bydd y darlithwyr hyn yn gyfrifol am ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd pwnc, cyfrannu at fywyd deallusol Prifysgol Abertawe ac addysg uwch Cymru drwy waith ymchwil a hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'w pwnc.

Ers 2011, mae’r brifysgol wedi llwyddo i sicrhau sawl ysgoloriaeth ymchwil trwy Gynllun Staffio’r Coleg yn ogystal â phenodi saith darlithydd ym meysydd Ieithoedd Modern, Daearyddiaeth, Hanes, y Gyfraith, Biowyddorau a'r Cyfryngau Digidol.

At hynny, mae’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil sefydlu gofod dysgu newydd ar y campws o dan nawdd y Coleg Cymraeg y llynedd.

Mae’r ystafell amlbwrpas yn adnodd defnyddiol i fyfyrwyr ac yn cynnwys yr offer fideo-gynhadledda diweddaraf i alluogi dysgu darpariaeth gydweithredol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae hyn yn newyddion gwych i Brifysgol Abertawe a bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn tyfu a hynny mewn nifer o feysydd newydd, cyffrous. Bydd yn braf gweld cyfleoedd newydd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg ac edrychwn ymlaen at groesawu’r darlithwyr newydd i’r campws maes o law.’’

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae'r Cynllun Staffio Academaidd yn elfen hollbwysig o'r strategaeth i ddatblygu a chynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Mae'r Coleg wedi dyfarnu 21 o swyddi academaidd newydd i wahanol brifysgolion ar draws Cymru i gychwyn erbyn mis Medi 2013, ac mae’r meysydd pwnc yn cynnwys Cyfrifeg, Meddygaeth, y Gyfraith, Newyddiaduraeth a Gwyddor Chwaraeon. Mae’r Coleg yn ffyddiog y bydd y swyddi newydd ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn ehangu'r ystod o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr yno”.