Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith i draddodi darlith flynyddol Sefydliad Hywel Dda

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Traddodir darlith flynyddol Sefydliad Hywel Dda gan Syr David Lloyd, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.

Teitl: Law in a Small Nation: Wales and England in a Shared Jurisdiction

Siaradwr: Syr David Lloyd Jones, (Arglwydd Ustus Lloyd Jones), Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.

Dyddiad: Dydd Mawrth 29 Hydref, 12:30

Amser: 7 pm

Lleoliad: Adeilad Richard Price, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb

Mae Syr David Lloyd Jones yn farnwr yn Llys Apêl Cymru a Lloegr, ac yn Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd a Choleg Downing, Caergrawnt lle bu'n Gymrawd rhwng 1975 a 1991.

Cafodd ei alw i far y Deml Ganol ym 1975, daeth yn Gofiadur ym 1994, a bu'n gwasanaethu'n Gwnsler y Goron iau (Cyfraith Gyffredin) rhwng 1997 a 1999. Fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1999.

Yn 2005, fe'i penodwyd yn farnwr yn yr Uchel Lys, ac fe'i hanfonwyd i Adran Mainc y Frenhines. Bu'n Farnwr Gweinyddol ar Gylchdaith Cymru, a Chadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg o 2008 tan 2011.

Yn 2012, fe'i penodwyd yn Arglwydd Ustus Apêl ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, ac yn yr un flwyddyn, fe'i penodwyd yn Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.

Mae Sefydliad Hywel Dda yn ganolfan ymchwil yng Ngholeg y Gyfraith, a enwyd er cof am y brenin Cymreig o'r 10fed ganrif a gysylltir yn draddodiadol â llunio cyfreithiau brodorol Cymru. Swyddogaeth y sefydliad yw hyrwyddo ymchwil ac ysgolheictod ar draddodiad cyfreithiol Cymru a chyfreithiau, a system gyfreithiol, y Gymru gyfoes.

Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.

Manylion cyswllt: Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 295831 neu anfonwch e-bost at

r.g.parry@abertawe.ac.uk