Cadair i Brifardd gan Brifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi’r Prifardd Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg Celfyddydau a Dyniaethau’r Brifysgol.

AlanLlwyd

‌Fel rhan o’r swydd, bydd yr awdur cynhyrchiol yn cyfrannu at weithgarwch ymchwil y Brifysgol ym maes Astudiaethau’r Gymraeg ac yn rhan o dîm ymchwil Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.‌

Ac yntau ar fin rhyddhau cofiant i R. Williams Parry, bydd yn parhau i ddadlennu a darganfod fel rhan o’r swydd. Mae ganddo gofiannau i Gwenallt a Waldo Williams ar y gweill a bydd yn paratoi golygiad o gerddi’r bardd o Benfro ar y cyd â Robert Rhys, Darllenydd yn y Gymraeg.

Mae’r ysgolhaig yn adnabyddus yn sgil ei waith cyhoeddi ym maes barddoniaeth a beirniadaeth heb anghofio’i ddoniau sgriptio a golygu felly mae'r Gadair yn gydnabyddiaeth o safon nodedig ei waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol ar hyd y blynyddoedd.

Y llynedd dyfarnwyd Doethuriaeth mewn Llên iddo gan Brifysgol Cymru, am ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth Gymraeg. 

Bydd yr Athro Llwyd yn dychwelyd i dir cyfarwydd wedi cyfnod yn gyn-diwtor ysgrifennu creadigol yn Adran y Gymraeg a bu ei fab, Ioan yn fyfyriwr yma. Yn fwy diweddar, bu’n gyfrifol am feirniadu cystadleuaeth ysgrifennu creadigol Academi Hywel Teifi.

Bydd y penodiad rhan amser hwn yn atgyfnerthu arbenigedd nifer o’r staff ymchwil ym maes beirniadaeth ac ysgrifennu creadigol ac yn hwb i’r Brifysgol wrth baratoi ar gyfer yr arolwg ymchwil sydd ar y gorwel.

Meddai’r Athro Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Academi Hywel Teifi: ‘‘Rhyfedd fel na fu’n rhaid i ni grwydro ymhellach na Threforys i benodi ysgolhaig y byddai unrhyw sefydliad ymchwil o bwys rhyngwladol yn falch ohono. Nid gormod dweud bod yr hyn a gyflawnodd yr Athro Alan Llwyd ym maes ysgolheictod y Gymraeg yn eithriadol a safon ei gyhoeddiadau diweddar o’r radd flaenaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef.’’

Ychwanegodd yr Athro Alan Llwyd: ‘‘Dyma fraint ac anrhydedd o'r radd flaenaf, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at gydweithio â'r Athro Tudur Hallam a gweddill y tîm ymchwil. Gobeithiaf y bydd fy nghyfraniad yn y swydd hon yn ystod y blynyddoedd i ddod yn un sylweddol ac arwyddocaol, ac y byddaf, trwy hynny, yn gaffaeliad i Brifysgol Abertawe yn benodol, ac i ysgolheictod Cymraeg yn gyffredinol.'’