Beth sy'n Digwydd?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yn hwyrach y mis hwn.

Siaradwr: Dr Liz Herbert McAvoy

Teitl y Ddarlith: I am a filthy stud-mare, a stinking whore: Authority, monstrosity and the sacred in the writings of the medieval woman recluse

Dyddiad: Dydd Iau 17 Hydref

Amser: 6 pm-7.45 pm

Lleoliad: Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe

Mynediad: Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond gan fod lle'n gyfyngedig yn y lleoliad, gofynnwn i chi archebu lle ymlaen llaw fel na chewch eich siomi.

Crynodeb o'r ddarlith: Roedd awduriaeth yn aml yn amhosib i fenyw ganoloesol, er bod dianc i'r bywyd unig weithiau'n ei chaniatáu hi i herio'r syniadau poblogaidd o'i chorff fel rhywbeth 'ffiaidd' ac i ddod yn awdur.

Mae Dr Liz Herbert McAvoy yn Ddarllenydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol ac Astudiaethau Rhywedd yn Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Abertawe. Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw ysgrifennu menywod canoloesol o 700 tan 1500, a meudwyaeth ganoloesol, galwedigaeth a fu'n boblogaidd iawn ymhlith menywod yn Ewrop o'r deuddegfed ganrif ymlaen.

Mae wedi cyhoeddi'n helaeth yn y ddau faes, gan gynnwys 'The History of British Women's Writing', cyf. 1 700-1500, a olygwyd ar y cyd â Diane Watt (2012); a 'Medieval Anchoritisms: Gender, Space and the Solitary Life' (2011).

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ddau destun gan fenywod o'r canol oesoedd: 'A Revelation of Purgatory', a ysgrifennwyd gan feudwy menywaidd dienw yng Nghaerwynt yn 1422; a 'The Booke of Gostlye Grace', cyfieithiad a wnaed yn y pymthegfed ganrif o destun Lladin a ysgrifennwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y lleian-weledydd, Mechtild o Hackeborn, ym mynachlog Helfta mewn lle sydd erbyn hyn yn rhan o'r Almaen.

Cysylltwch â: Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu anfonwch neges e-bost at:adult.education@abertawe.ac.uk