Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, a Chyn Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, yn trafod Barddoniaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd dau Gymrawd nodedig Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Parchedicaf Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru a’r Gwir Barchedig Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, yn trafod barddoniaeth y diweddar R.S. Thomas yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe ar 1 Tachwedd.

 

Learned Society of Wales logoTeitl y digwyddiad fydd ‘Laboratories of the Spirit’ a bydd yn trafod barddoniaeth grefyddol y bardd Cymreig a’r offeiriad Anglicanaidd fel rhan o raglen R.S. Thomas 2013 sy’n nodi canmlwyddiant geni Thomas.

Cadeirydd y drafodaeth fydd yr Athro M Wynn Thomas (OBE FBA FLSW), o Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru Prifysgol Abertawe, sy’n Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac ysgutor llenyddol Thomas.

Dywedodd Dr Barry Morgan, Mae bob amser yn fraint fawr cael rhannu llwyfan gyda Rowan Williams ac rwyf i’n edrych ymlaen at ddysgu rhagor am y bardd Cymreig mawr R.S. Thomas, yn ogystal â chyfrannu rhywbeth at y drafodaeth.”

Mae’r digwyddiad yn un o ddarlithoedd Pen-blwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ar y cyd â Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH ) ac mae’n rhan o gyfres RIAH o ddarlithoedd a digwyddiadau cyhoeddus sydd bob blwyddyn yn croesawu nifer o siaradwyr uchel eu proffil i Abertawe.

Dywedodd yr Athro Wynn Thomas, Is-Lywydd (Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) Cymdeithas Ddysgedig Cymru, “Ar adeg canmlwyddiant geni R. S. Thomas, un o’r beirdd modern mawr ar drywydd ysbrydol, mae’n briodol i ddau o brif eglwyswyr y dydd  – Dr Rowan Williams, Meistr Coleg Magdalene, Caergrawnt, a chyn Archesgob Caergaint, a Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru – ystyried etifeddiaeth werthfawr ei weledigaeth.”

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr RIAH, Dr Elaine Canning, “Mae RIAH yn falch iawn i groesawu’r Parchedicaf Dr Barry Morgan a’r Gwir Barchedig Dr Rowan Williams wrth iddyn nhw rannu llwyfan gyda’r Athro M Wynn Thomas, awdur R.S. Thomas: Serial Obsessive a gyhoeddwyd yn ddiweddar.  Bydd ‘Laboratories of the Spirit’ yn rhan o raglen R.S Thomas 2013 gan gynnig cyfle rhagorol i glywed yr arbenigwyr hyn yn cyflwyno dealltwriaeth newydd o farddoniaeth grefyddol un o brif feirdd Cymru yn yr ugeinfed ganrif.”

Cynhelir ‘Laboratories of the Spirit’ ar 1 Tachwedd 2013 yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, gan ddechrau’n brydlon am 6.30pm.

Pris tocynnau: £5 / £3.50 gostyngiadau

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau i archebu: 01792 60 20 60

Neu ewch i: http://taliesinartscentre.ticketsolve.com

Rhagor o wybodaeth:

Y Gymdeithas Ddysgedig: smorse@lsw.wales.ac.uk / 02920 376971

http://learnedsocietywales.ac.uk/

RIAH: riah@swansea.ac.uk / 01792 295190

http://www.swan.ac.uk/riah/