Arbenigwyr byd enwog ar gyffuriau hamdden newydd i ymgasglu yn Abertawe'r mis Medi hwn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cynhadledd ryngwladol o bwys i archwilio'r dystiolaeth wyddonol a'r ymchwil ddiweddaraf ar gyffuriau hamdden newydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe'r mis Medi hwn, mewn cydweithrediad รข Phrifysgol Swydd Hertford a Chanolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop (EMCDDA).

Teitl: The Second International Conference on Novel Psychoactive Substances

Dyddiadau: Dydd Iau, Medi 12, a dydd Gwener, Medi 13, 2013

Lleoliad: bydd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau'r gynhadledd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe. 


 

Siaradwyr: Caiff y gynhadledd ei hagor gan Dr Sarah Watkins, Swyddog Meddygol Uwch, yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, ac ymhlith prif siaradwyr y gynhadledd y bydd:

Paul GriffithsPaul Griffiths, Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop (EMCDDA), Lisbon.

 

 

 

Sir Robin MurraySyr Robin Murray, Athro mewn Ymchwil Seiciatrig yn y Sefydliad Seiciatreg.

 

 

 

Prof Andy Parrott‌Yr Athro Andy Parrott, Prifysgol Abertawe, awdurdod rhyngwladol ar seicobioleg ddynol MDMA neu 'Ecstasi' a gyhoeddodd y papur ymchwil cyntaf i arddangos amhariadau i'r cof mewn defnyddwyr MDMA/Ecstasi o'i gymharu â rheolyddion o oedrannau tebyg.

 

 

 

Prof Fabrizio Schifano‌Yr Athro Fabrizio Schifano, Cadeirydd mewn Ffarmacoleg a Therapiwteg, Ysgol Fferylliaeth, Prifysgol Swydd Hertford, ac Aelod o'r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau.

 

 

 

Prof Lynn SingerYr Athro Lynn Singer, Dirprwy Bennaeth ac Is-lywydd Materion Academaidd, ac Athro mewn Pediatreg, Seiciatreg, Seicoleg a Gwyddorau Iechyd Amgylcheddol, Prifysgol Case Western Reserve, UDA, a arweiniodd ‘Project Newborn-Next Steps’, astudiaeth hydredol o fabanod sydd wedi'u datgelu i gocên a'u mamau, a ‘Project Daisy’, astudiaeth o fabanod sydd wedi'u datgelu i MDMA/Ecstasi.


 

Manylion am y gynhadledd: Yn dilyn llwyddiant y Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Sylweddau Seicoactif Newydd, a gynhaliwyd y llynedd yn Budapest, bydd cynhadledd eleni'n cael ei chynnal gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â'r Ysgol Gwyddorau Bywyd a Meddygol ym Mhrifysgol Swydd Hertford a Chanolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop, yn Lisbon, Portiwgal.

Mae cyffuriau hamdden newydd - er enghraifft meffedron, a adwaenir hefyd fel 'M-cat' neu 'meow meow', neu gyffuriau canabinoid 'sbeis' artiffisial - yn aml yn cael eu camddarlunio fel cyffuriau sy'n 'ddiogel' ar gyfer defnydd hamdden. Fodd bynnag, gallant fod yr un mor niweidiol a chaethiwus â chyffuriau adfywiol eraill megis cocên neu amffetaminau.

Bydd panel o arbenigwyr rhyngwladol yn ymgasglu ym Mhrifysgol Abertawe i archwilio'r dystiolaeth wyddonol a'r ymchwil ddiweddaraf yn y byd hwn sy'n newid yn barhaus, ac yn ceisio amlygu'r peryglon y mae'r cyffuriau hyn yn eu cynrychioli, y pwysigrwydd o wybod eu heffeithiau, a strategaethau i leihau'r defnydd a wneir ohonynt.

Bydd y gynhadledd hon o ddiddordeb i weithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr ieuenctid, swyddogion gorfodi'r gyfraith, addysgwyr, gwneuthurwyr polisïau, academyddion, ac unrhyw un sy'n rhan o'r gwaith o atal a thrin caethiwed i gyffuriau.