Academydd newydd Abertawe'n rhoi pobl wrth wraidd systemau trafnidiaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Darllenydd Gerontoleg newydd Prifysgol Abertawe, yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn academydd y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae teithio a phroblemau trafnidiaeth yn effeithio ar bobl hŷn.

Dr Charles MusselwhiteMae Dr Charles Musselwhite yn ymuno â Phrifysgol Abertawe o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.  Ei gefndir yw defnyddio seicoleg i astudio traffig a thrafnidiaeth, ac mae wedi datblygu diddordeb penodol mewn effaith problemau traffig ar les pobl hŷn, ac ar y berthynas rhwng problemau traffig a thechnoleg, polisi cyhoeddus a chynllunio trafnidiaeth.

Mae ei ymchwil wedi ystyried sut mae pobl hŷn yn ymdopi pan fyddant yn rhoi'r gorau i yrru, gan nodi'r problemau a wynebwyd ganddynt.  Nododd fod rhai'n ymdopi'n dda, yn enwedig y rhai a gynlluniodd yn dda ymlaen llaw neu oedd yn byw yn agos at ffrindiau a theulu, tra bod eraill yn methu ag ymdopi o gwbl.

Hefyd, mae ymchwil Dr Musselwhite yn ystyried sut mae technoleg yn effeithio ar drafnidiaeth a phobl hŷn, gan gynnwys sut allai technoleg helpu pobl i  barhau i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel.  Mae hefyd wedi astudio sut allai defnydd cynyddol o gyfrifiaduron i ddiwallu anghenion sylfaenol osgoi'r angen i deithio, a sut mae hyn yn effeithio ar anghenion pobl hŷn i ymwneud yn gorfforol â'r byd allanol.

Dywedodd Dr Musselwhite: "Mae'r holl faes heneiddio a thrafnidiaeth o ddiddordeb mawr i mi, a gobeithio y gallaf adeiladu ar fy llwyddiant o ran ennill cyllid ar gyfer ymchwil cyffrous ac arloesol yn y maes hwn yn fy swydd newydd, gan gydweithio ar draws Prifysgol Abertawe a Chymru."

Mae ei feysydd ymchwil eraill yn cynnwys ystyried diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a safbwynt y cyhoedd ar gynlluniau ac ymyriadau trafnidiaeth, gan gynnwys cyfrif carbon, prisio'r ffyrdd, a rhannu lle.

Dywedodd Dr Musselwhite: "Credaf fod yn rhaid i ni edrych ar drafnidiaeth o'r newydd. Mae angen gwell dealltwriaeth o'r problemau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a chynllunio trafnidiaeth. Yn gyffredinol, dylid cydnabod mai pobl sydd wrth galon y system trafnidiaeth, ac ni ellir eu hanwybyddu.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Heneiddio Arloesol, yr Athro Vanessa Burholt: "Rydym wrth ein boddau bod Dr Charles Musselwhite yn ymuno â'r Ganolfan. Mae'n Ganolfan Rhagoriaeth sy'n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf, gydag effaith neilltuol. Mae teimlad unigryw iddi - mae'n gartref i grŵp o ymchwilwyr ac academyddion brwdfrydig sy'n angerddol am gyflawni ein cenhadaeth o ran ymchwil ac addysg.

"Caiff Charles ei groesawu i dîm sy'n ystyried yr anghysondebau, y gwerthoedd, y rhagdybiaethau, a'r goblygiadau sy'n deillio o boblogaeth hŷn. Mae'r Ganolfan yn meithrin arloesi, a bydd gwybodaeth Charles yn ased gwerthfawr i o leiaf tri o'r chwe thîm thema yn y Ganolfan, yn arbennig o ran ystyried amgylcheddau heneiddio (gan gynnwys materion megis trafnidiaeth, dylunio, a bywyd trefol a gwledig), technoleg a hwyluso technoleg, a dyfodol heneiddio. Bydd dawn a thrylwyredd academaidd Charles yn helpu i sicrhau bod y Ganolfan Heneiddio Arloesol yn parhau i gynhyrchu gwybodaeth ymchwil sy'n flaengar yn y maes, gan wella ansawdd bywyd pobl hŷn.