Academi Gwyddor Defnyddiau newydd i wella sgiliau'r gweithlu.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd 'Academi Defnyddiau' newydd yn cael ei sefydlu heddiw i ddarparu cyrsiau arbennig ar gyfer myfyrwyr a gweithwyr, er mwyn ymateb i'r prinder sgiliau yn y gweithlu o ran Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg.

Ysgogwyd y Ganolfan Ymchwil Defnyddiau ym Mhrifysgol Abertawe i sefydlu'r Academi Defnyddiau oherwydd y nifer fawr o ddiwydiannau a chwmnïau yng Nghymru sy'n cynhyrchu a phrosesu defnyddiau, neu sy'n dibynnu ar Wyddor Defnyddiau yn eu gweithrediad dydd i ddydd, a'r prinder pobl yn y gweithlu gyda'r sgiliau perthnasol ym maes gwyddor defnyddiau.

Nod yr Academi Defnyddiau yw cydweithredu â diwydiant er mwyn gwella sgiliau’r gweithlu.  Bydd hynny'n helpu i sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant diwydiant Cymru. Mae'r Academi Defnyddiau yn gydweithrediad rhwng prosiectau cyfredol a phrosiectau newydd ym meysydd Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd, Metropolitan Abertawe, a Morgannwg, a nifer o bartneriaid diwydiannol mawr a bach. 

Dywedodd Yr Athro James Sullivan, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi Defnyddiau yn y lansiad:  "Mae hwn yn amser cyffrous iawn i ni yn y byd academaidd - mae prosiectau'r Academi wedi pontio'r bwlch hyfforddiant rhwng y galw ym myd diwydiant a darpariaeth y byd academaidd. Bydd hyfforddiant hyblyg, sy'n ymateb i'r galw, mewn meysydd mor hanfodol â Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg, yn dod â chanlyniadau positif yn y tymor byr, y tymor canolig, a'r tymor hir, gobeithio."

Bydd Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog am Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, a David Rees, Aelod Cynulliad Aberafan, ynghyd â thros 30 o gynrychiolwyr o gwmnïau peirianegol Cymru, yn mynychu'r digwyddiad lansio, lle trafodir posibiliadau'r dyfodol ar gyfer hyfforddiant a chyrsiau ymchwil a yrrir gan anghenion diwydiant, ac a ddarperir gan y brifysgol.

Dywedodd Mr Cuthbert: "Bydd y dulliau dysgu a hyfforddiant sy'n cael eu mabwysiadu gan yr Academi Defnyddiau yn gwneud gwahaniaeth, ar adeg pan fydd angen ar fyfyrwyr i deimlo'n sicr bod eu hastudiaethau yn helpu yn eu gyrfa.

"Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod caled hwn yw creu swyddi a hyrwyddo twf. Mae'r Academi yn cefnogi'r amcanion hyn trwy gydweithio â diwydiant i ddiwallu ei anghenion sgiliau.  Bydd hyn yn gwella rhagolygon y myfyrwyr o ran swyddi, yn ogystal â helpu diwydiant i ffynnu."

Mae'r Academi Defnyddiau newydd wedi creu ystod o gyrsiau ar sail lawn-amser neu ran-amser sy'n gallu arwain at ystod o gymwysterau ar lefelau amrywiol, gan ganiatáu i bobl ddechrau eu hyfforddiant neu adael hyfforddiant ar bob lefel.  Gall pobl dderbyn hyfforddiant yn y gweithle i gau'r bwlch sgiliau Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg neu gallant ddewis astudio am radd neu radd meistr ar sail lawn-amser neu ran-amser, a gallant ddewis astudio am y cymhwyster doethurol, EngD.

Mae'r Academi Defnyddiau yn darparu hyfforddiant ar y lefelau canlynol trwy'r cynlluniau hyn:

  • ·         Mae'r rhaglen Defnyddiau Byw am ysgolion yn defnyddio arddangosfeydd a sioeau teithiol i annog plant ysgol o bob oed i wneud pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg).
  • ·         Mae'r rhaglen Defnyddiau - Hyfforddiant, Addysgu, a Dysgu yn canolbwyntio ar gyrsiau byr, sy'n ffocysu ar y gweithle, ar gyfer cwmnïau yng Nghymru, gyda'r nod o ddarparu gwybodaeth sylfaenol Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg i'r gweithlu, sydd efallai o gefndir academaidd anarferol.
  • ·         Mae'r cymhwyster BEng Gwyddor Defnyddiau yn cael ei gynnig ym Mhrifysgol Abertawe ar sail lawn-amser, ac ar sail ran-amser ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
  • ·         Mae cymhwyster Meistr mewn Defnyddiau yn cael ei ddarparu ar sail lawn-amser a rhan-amser trwy'r prosiect STRIP a'r cynllun Datblygiad Integredig i Raddedigion.
  • ·         Ceir mynediad at Hyfforddiant Doethurol trwy raglenni STRIP, MATTER a COATED, a ariennir trwy Gronfa Gymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd a'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.