£20 miliwn o hwb ar Ddiwrnod Ewrop i gychwyn codi Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae £32 miliwn o fuddsoddiad i greu Canolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi Prifysgol Abertawe wedi cael sêl bendith diolch i hwb gan yr Undeb Ewropeaidd yn ôl Carwyn Jones, y Prif Weinidog heddiw [9 Mai 2013].

Bydd dros £20 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi i adeiladu’r ganolfan. Mae’r ganolfan hefyd wedi derbyn nawdd Banc Buddsoddi Ewrop. Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad ar Ddiwrnod Ewrop pan oedd ar y safle i nodi cychwyn y gwaith o godi’r campws newydd.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Rwy’n croesawu’r cyfle i fod yma ar y diwrnod pwysig hwn, nid yn unig i nodi cychwyn y gwaith adeiladu ond hefyd, ac yn hollbwysig, i gydnabod manteision y berthynas rhwng Cymru ac Ewrop, gan gynnwys arian yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu at sbarduno’r gwaith o ddatblygu’r Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd, gan greu conglfaen ar gyfer ymchwil a fydd yn arwain y byd. Bydd hefyd yn creu cyfleoedd am waith yn y diwydiant adeiladu.”

Bydd y Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau hynod fodern er mwyn i Brifysgol Abertawe allu gwneud gwaith ymchwil a datblygu, a hynny yn arbennig drwy brosiectau ar y cyd â diwydiant. Bydd yn cefnogi amrywiaeth o waith ar y cyd â busnesau mewn sectorau megis uwch-beirianneg, yr economi ddigidol a thechnolegau carbon isel.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: “Mae’n bleser mawr i mi ein bod wedi gallu buddsoddi arian gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer arloesedd ac ar gyfer darparu cyfleusterau addysgol hynod fodern a fydd yn llesol i Abertawe a’r tu hwnt.

“Un o’n ymrwymiadau pwysicaf yn ein Rhaglen Lywodraethu yw gwella ymchwil ac arloesi er mwyn gwneud Cymru’n fwy cystadleuol ar lefel ryngwladol a chreu swyddi a thwf. Mae rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn gymorth inni gyrraedd y nod hwnnw, ac maent eisoes wedi arwain at fuddsoddi rhyw £400 miliwn mewn prosiectau ar gyfer ymchwil a datblygu ac arloesi heb sôn am ddim arall.”

Bydd y Ganolfan yn gartref i weithgarwch y Brifysgol ym meysydd Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol, Peirianneg Electronig, Peirianneg Deunyddiau a Mecanyddol, yn ogystal ag Argraffu a Chaenu.

Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:  “Mae’n bleser mawr i ni dderbyn arian o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer y Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg. Bydd y Ganolfan yn darparu cyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf, a bydd yn adnodd ar gyfer diwydiant er mwyn gallu cysylltu ag arbenigedd diguro i wella cynnyrch a phrosesau gweithgynhyrchu ac i ddatblygu rhai newydd. Bydd hynny’n cyfrannu at adfywiad economaidd ymhob rhan o’r rhanbarth.

“Bydd y Ganolfan yn rhan o’r Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd. Mae hwnnw’n argoeli i fod yn brosiect a fydd yn gweddnewid y Brifysgol a Chymru, gan helpu i ddatblygu clystyrau o gwmnïau a fydd yn nghanol yr economi wybodaeth fodern. Bydd y campws hefyd o fudd enfawr i’n myfyrwyr; trwy’r cydweithio agos gyda diwydiant gellir cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gael lefel uwch o sgiliau a phrofiad y bydd cyflogwyr yn eu croesawu.”

Bydd y contractwr, St Modwen, nawr yn cychwyn ar y gwaith o godi’r campws. Y disgwyl y bydd y cam adeiladu ei hun yn creu hyd at 4,000 o swyddi yn uniongyrchol, a 6,000 o swyddi yn anuniongyrchol.

Mae hyn yn dilyn buddsoddiad mawr a gyhoeddwyd y llynedd, sef y byddai £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi, - arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop, Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd – i wireddu cam cyntaf y campws, gwerth £250 miliwn. 

Ar y campws, bydd yr adeilad SMaRT – sef cyfleuster pwrpasol ar gyfer ymchwil a phrofi deunyddiau a noddir yn rhannol gan Rolls Royce – canolfan arloesi, canolfan adnoddau, darlithfeydd a’r Coleg Busnes ac Economeg. Bydd llety i fyfyrwyr ar y safle hefyd. Mae disgwyl i’r cam cyntaf agor ym mis Medi 2015.