£20 miliwn oddi wrth y Cyngor Ymchwil Meddygol ar gyfer sefydliad ymchwil gwybodeg iechyd newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Cyngor Ymchwil Meddygol wedi cyhoeddi heddiw (Mercher 3 Gorffennaf) y bydd yn buddsoddi £20miliwn i greu sefydliad ymchwil gwybodeg iechyd yn y DU, i'w alw'n Sefydliad Farr.

Bydd Sefydliad Farr, fydd â chanolfannau mawr yn Llundain, Dundee, Manceinion ac ym Mhrifysgol Abertawe, yn ychwanegu at fuddsoddiad blaenorol gan elusennau, Cynghorau Ymchwil, a'r Llywodraeth.

Bydd y buddsoddiad yn cynorthwyo defnyddio data am gleifion a data ymchwil mewn modd diogel at ddibenion ymchwil meddygol ar gyfer pob clefyd. Bydd ymchwil annibynnol y Sefydliad yn cefnogi arloesi yn y sector cyhoeddus ac ym myd diwydiant, gan arwain at gynnydd o ran meddygaeth ataliol, at wella gofal y GIG, ac at wella datblygiad cyffuriau a dulliau diagnosis masnachol.

Bydd hefyd yn rhoi mewnwelediad newydd i ddeall achosion afiechyd a fydd, yn ei dro, yn llywio ymchwil biofeddygol newydd.

Yn ogystal â dod â buddion iechyd i gleifion a dinasyddion y DU, bydd y Sefydliad yn helpu i gryfhau enw da'r DU yn arweinydd byd-eang ym maes ymchwil sy'n defnyddio basau data electronig mawr ym maes iechyd.

Bydd Sefydliad Farr yn adeiladu ar y pedair canolfan ymchwil gwybodeg e-iechyd a ariannwyd yn ddiweddar gan gonsortiwm sy'n cynnwys tri Chyngor Ymchwil, tair adran iechyd, a phedair elusen ymchwil meddygol. Mae'r rhain yn cynnwys Canolfan Gwella Iechyd y Boblogaeth trwy Ymchwilio Cofnodion Electronig (CIPHER) gwerth £4.3miliwn ym Mhrifysgol Abertawe, a arweinir gan yr Athro Ronan Lyons a'r Athro David Ford yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol, yn y Coleg Meddygaeth.

Mae'r £20 miliwn ychwanegol ar gyfer Sefydliad Farr yn dyblu buddsoddiad blaenorol y DU yn y maes hwn.

Bydd gwyddonwyr o feysydd meddygaeth, poblogaeth, a chyfrifiadureg yn cyfuno eu harbenigedd i ddehongli setiau data mawr a chymhleth mewn amgylchedd ymchwil sy'n parchu cyfrinachedd y claf.

Bydd ymchwilwyr yn datblygu dulliau o rannu, cyfuno, a dadansoddi setiau data amrywiol ar draws ffiniau, gan alluogi canfyddiadau newydd a chan ddilysu canlyniadau ymchwil ar gyflymder a graddfa na fu'n bosibl hyd yma.

Bydd canolbwyntio'r ariannu ar ddatblygu sail ymchwil gwybodeg iechyd y DU yn gosod sylfaen ar gyfer cydweithio â chwmnïau TG a chwmnïau fferyllol, gan ddenu mewnfuddsoddiad i economi'r DU.

Mae gan Sefydliad Farr strwythurau cadarn i ddiogelu cyfrinachedd y claf. Bydd y Sefydliad yn ymgysylltu'n agos â'r cyhoedd i nodi pryderon cyfredol, a phryderon y dyfodol, ynghylch ymchwil sy'n defnyddio data personol, dulliau diogel o ymateb i'r pryderon hynny, a dulliau o sicrhau bod buddion y fath ymchwil yn weladwy i gleifion a'r cyhoedd.

Dywedodd David Willetts, y Gweinidog dros Wyddoniaeth a Phrifysgolion: "Bydd rhoi 'data mawr' ar waith yn y GIG yn creu chwyldro ym maes gofal iechyd. Bydd Sefydliad Farr yn dod â gwyddonwyr hyfedr at ei gilydd, o faes meddygaeth a maes cyfrifiadureg, i ddefnyddio cofnodion iechyd electronig i wella ein dealltwriaeth o ystod o glefydau. Bydd yn denu buddsoddi o'r diwydiannau fferyllol a TG. Diogelir cyfrinachedd y claf, wrth gwrs."

Dywedodd Sir John Savill, Cyfarwyddwr y Cyngor Ymchwil Meddygol: "Mae defnyddio cyfoeth y data yng nghofnodion iechyd, astudiaethau ar garfannau cleifion a'r boblogaeth, a setiau data arferol eraill yn ganolog i genhadaeth y Cyngor Ymchwil Meddygol i wella iechyd dynol ac i gyfrannu i dwf economaidd. Mae buddsoddi yn Sefydliad Farr yn rhan bwysig o strategaeth ehangach y Cyngor i integreiddio data clinigol, data genetig, a data biofeddygol eraill i greu gwell ddealltwriaeth o iechyd a chlefydau.

"Mae'r £20 miliwn oddi wrth y Cyngor Ymchwil Meddygol yn adeiladu ar fenter a gefnogir gan 10 ffynhonnell ariannu yn y DU, o'r llywodraeth ac o elusennau. Y nod yw cryfhau gallu'r DU i ddadansoddi cofnodion cleifion a gwybodaeth iechyd mewn amgylchedd diogel fel bod modd rhoi sicrwydd i gleifion a chyfranogwyr bod data amdanynt yn ddiogel ac y gellir eu defnyddio er lles poblogaeth gyfan y DU." 

Ychwanegodd yr Athro David Ford, Dirprwy Gyfarwyddwr CIPHER yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Bydd Sefydliad Farr yn elwa ar arbenigedd y Canolfannau ac yn annog cydweithio ehangach rhwng ymchwilwyr y DU ac ymchwilwyr rhyngwladol.

"Bydd y Sefydliad hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa a hyfforddiant i gynyddu cynhwysedd a gallu'r DU mewn ymchwil gan ddefnyddio cofnodion iechyd. Bydd CIPHER yn gweithio'n agos gyda'r GIG i sicrhau bod buddion i'r GIG ac i gleifion yn cael eu gwireddu'n gyflym."

Nodiadau:

Y sefydliadau sydd wedi ariannu'r pedair Canolfan Ymchwil Gwybodeg Iechyd trwy fuddsoddi £19 miliwn ar y cyd yw: Ymchwil Arthritis y DU, Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser y DU, Swyddfa'r Prif Wyddonydd (Cyfarwyddiaeth Iechyd Llywodraeth yr Alban), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Meddygol, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (Llywodraeth Cymru) ac Ymddiriedolaeth Wellcome.

Enwyd Sefydliad Farr ar ôl un o sefydlwyr ystadegaeth feddygol, yr epidemiolegydd William Farr (1807-83). Cyfraniad mwyaf arwyddocaol Farr i iechyd cyhoeddus oedd sefydlu system i nodi achos marwolaeth, fel mater o arfer, yn y cofnod marwolaeth. Roedd y fath ystadegau manwl yn darparu'r data craidd i ganiatáu dadansoddiad llawer mwy manwl o farwolaethau ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Er enghraifft, roedd modd cymharu'r gyfradd marwolaethau rhwng gwahanol alwedigaethau, neu rhwng gwahanol ardaloedd daearyddol.