Ysgoloriaethau PhD yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH), Prifysgol Abertawe yn gwahodd ceisiadau am 11 o ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn, yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, i ddechrau yn 2012-13.

Mae'r ysgoloriaethau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: Saesneg, Cymraeg, Ieithoedd Modern, Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Hanes, Ieithyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol; mae dwy o'r ysgoloriaethau ar gyfer prosiectau cyfrwng Cymraeg.

Mae rhai o'r prosiectau ymchwil sydd ynghlwm wrth yr ysgoloriaethau hefyd o ddiddordeb lleol, er enghraifft y 'Prosiect Cu@Abertawe', 'Port Talbot a'i Gweithwyr Dur' a 'Chymru a'i Gororau'.

Mae 'Prosiect Cu@Abertawe', a gydlynnir gan yr Athro Huw Bowen, yn brosiect adfywio sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth a ariannir gan Cadw - Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect aml-bartner hwn yn ymgymryd â cham cyntaf y gwaith ar safle 12 ½ erw hen weithfeydd Copr Hafod-Morfa yng Nghwm Tawe Isaf, gyda'r nod o ddod ag ymwelwyr a thwristiaid i safle o gryn arwyddocâd diwydiannol. Mae'r ysgoloriaeth PhD yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau digidol gan ddefnyddio technoleg symudol a ddelir yn y llaw.

Mae prosiect Port Talbot yn ymchwilio i effaith y diwydiant dur ar bobl a hunaniaeth Port Talbot, o agoriad gweithfeydd newydd Abaty Cwmni Dur Cymru yn 1951 i breifateiddio Dur Prydain ym 1988; bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r gwaith ymchwil parhaus hwn.

Mae prosiect arall, sydd â thema Gymreig, yn canolbwyntio ar 'Dirweddau Llenyddol, Ysbrydol a Hanesyddol Cymru a'i Gororau', yn ystod yr Oesoedd Canol, gan roi cyfle i ddau myfyriwr gyfrannu at waith parhaus gan y Ganolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar (MEMO) ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ystod eu cyfnod yn Abertawe, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu lleoli yng Nghanolfan y Graddedigion Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Graddedigion, Robert Rhys:

"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yng ngwaith ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn Abertawe yn gwobrwyo egni deallusol a dychymyg y staff sy'n arwain y prosiectau hyn, a bydd yn rhoi cyfle gwych i genhedlaeth newydd o ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd trwy gynhyrchu gwaith arwyddocaol sydd yn ddeallusol drylwyr ac hefyd yn berthnasol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. "

Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr y DU a'r UE sy'n meddu ar y cymwysterau perthnasol sydd fel arfer o leiaf yn radd anrhydedd ail ddosbarth uwch a gradd Meistr mewn pwnc perthnasol.

Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o'r un ar ddeg o ysgoloriaethau a ariennir yn llawn gwblhau ffurflen gais ar-lein ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu lawrlwytho pecyn cais ar bapur. 

Mae teitlau y 11 o ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn fel a ganlyn:

  • Cysylltiadau a Hanes Tsieina-Ewrop
  • Ewrop a Chymuned yn Ne-ddwyrain Asia
  • Prosiect Cu@Abertawe: llwybrau digidol a chymeriad trefol yng Nghwm Tawe Isaf
  • Dichonoldebau Cymdeithasol ac Artistig: creadigrwydd dramatig ac ymrwymiad gwleidyddol ymysg y rhai dan 30 yng Nghymru
  • Darllen / Cyd-destunoli / Cyfieithu Herta Müller (1953 -)
  • Anialdir: mannau llythrennol a throsiadol ar yr ymylon
  • Port Talbot a'i gweithwyr dur: hanes llafar, 1951-1988
  • Tirweddau Llenyddol, Ysbrydol a Hanesyddol Cymru a'i Gororau' (2 ysgoloriaeth)
  • Astudiaethau Cymraeg i Oedolion
  • Ysgrifennu Creadigol  (yn y Gymraeg neu yn y Gymraeg a’r Saesneg)