Ymchwil newydd yn archwilio gwrywdod a’r argyfwng ariannol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi erthygl ar rôl gwrywdod yn yr argyfwng ariannol presennol yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Organisation.

Mae’r Athro David Knights o’r Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn ysgrifennu yn 'Managing Masculinity/Mismanaging the Corporation' bod cysylltiad rhwng yr argyfwng ariannol presennol a’r sgandalau parhaus yn y byd bancio â’r diddordeb gormodol mewn ymdrechion i sicrhau hunaniaethau gwrywaidd.

Meddai’r Athro Knights a ysgrifennodd yr erthygl ar y cyd â Maria Tullberg o Brifysgol Gothenberg, Sweden: “Mae sawl adroddiad o’r argyfwng ariannol a roddodd sioc i fyd y Gorllewin yn 2008. Roedd bron pob sylwebaeth yn seiliedig ar dybiaethau mai hunan-ddiddordeb economaidd, cymryd gormod o risgiau wrth ddarparu credyd a diffygion mewn rheoliadau a achosodd yr argyfwng. Nid yw rhai’n yn anghywir fel y cyfryw ond maent yn anghyflawn”.

“Gan gydnabod y sawl rheswm dros yr argyfwng a sut y dylid ei reoli, mae’r erthygl hon yn cynnig safbwynt arall – mae’n cyflwyno safbwynt y rhywiau a all ategu ond hefyd herio rhywfaint o’r doethineb confensiynol.”

Mae’r dadansoddiad yn awgrymu bod hunan-ddiddordeb economaidd unigol, sy’n amlygu ei hun drwy ddiddordeb gormodol gyda chyflogau uchel a bonysau, yn un o brif nodweddion y gormodeddau a arweiniodd at yr argyfwng.

Fodd bynnag, mae’r gormodeddau hyn wedi’u hatgyfnerthu’n drwm gan freuder gwrywaidd sy’n gofyn am wobrau economaidd cynyddol i ddangos rhagoriaeth gystadleuol yr unigolyn gwrywaidd. Mae’r papur yn dadlau bod yr hunan-ddiddordeb gwrywaidd hwn yn adlewyrchu synnwyr o ymreolaeth sy’n groes i’n hannibyniaeth gydag eraill.

Aeth yr Athro Knights ymlaen i ddweud: “Mae ein herthygl yn archwilio sut y mae’r hunan-ddiddordeb hwn nid dim ond yn adlewyrchu’r consensws economaidd ond hefyd yr ymddygiad gwrywaidd ymhlith unigolion elitaidd y dosbarth busnes sy’n gwneud ceisio am gyflogau cynyddol bron yn orfodol. Yn ein herthygl, rydym yn awgrymu cysylltiad rhwng rheoli gwrywdod a chamreoli’r gorfforaeth sydd wedi golygu bod rhaid i’r llywodraeth dalu i achub y banciau a bod economïau’r Gorllewin wedi bod yn agos at fynd i’r wal.

“Er bod llywodraethu a rheoliadau newydd yn amlwg yn ymatebion pwysig i’r argyfwng, nid ydynt o reidrwydd yn cyrraedd gwreiddyn y broblem. Mae nifer o’r datrysiadau’n dibynnu’n uniongyrchol ar ethos reoleiddio sy’n ceisio cyfyngu ar ymddygiad anfoesegol drwy gosbi. Yn anffodus mae hyn yn fath o fiwrocrateiddio moesoldeb – moesoldeb sy’n ddibynnol ar gydymffurfio gyda’r rheolau”.

“Efallai mai’r hyn sydd ei angen arnom yw moeseg sy’n seiliedig ar ddatblygu hunaniaeth rinweddol lle nad yw moesoldeb yn ymwneud ag ennill mantais neu osgoi cosb ond yn dod yn ganlyniad yn ei hun.

“Wrth gwrs, mae mynd i’r afael â moesoldeb cyfunol yn gwrthdaro â syniadaeth Orllewinol ers Adam Smith sy’n cefnogi hunan-ddiddirdeb unigol ar y sail bod ganddo ‘law cudd’ o fudd cyfunol. Os nad unrhyw beth arall, gwnaeth yr argyfwng ariannol byd-eang ddatgelu’r myth hwnnw ac rydym i gyd yn dioddef y canlyniadau.

“Yn anffodus mae diwylliannau sefydliadol wedi’u dominyddu o hyd gan y myth hwn a thrafodaethau gwrywaidd, beth bynnag yw rhyw unigolion, yn parhau i wobrwyo ymddygiad cyfryngol yn hytrach na dathlu cryfder moesegol, er gwaethaf y canlyniadau difrodus. Mae’n rhaid i ni herio syniadau gwrywaidd gyda llwyddiant unigol ac adfer ystyr moesegol i fywyd sefydliadol.”

Gellir darllen yr erthygl, a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Knights a Maria Tullberg yma: http://org.sagepub.com/content/19/4.