Ymchwil newydd yn archwilio effaith ymbelydredd solar ar yr amgylchedd yn cael ei chyhoeddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe sy’n archwilio effaith ymbelydredd solar ar yr amgylchedd naturiol wedi’i chyhoeddi gan y cyfnodolyn gwyddoniaeth blaenllaw Americanaidd PLoS ONE.

Mae’r astudiaeth, o’r enw “Solar radiation and tidal exposure as environmental drivers of Enhalus Acorodides dominated seagrass meadows”  yn archwilio effaith ffactorau amgylcheddol a ffactorau sy’n ymwneud â newid hinsawdd, yn enwedig ymbelydredd solar, ar y cyflenwad o forwellt, adnodd gwerthfawr i ecosystemau sydd dan fygythiad ar raddfa fyd-eang.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal gan Dr Richard Unsworth, Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy, Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe mewn perthynas ag ymchwilwyr yng Nghanolfan Pysgodfeydd y Gogledd, Cairns, Awstralia.   

Gan esbonio cefndir yr astudiaeth, meddai’r awdur Dr Richard Unsworth:  “O ystyried y pryder ynghylch lefelau uchel o ymbelydredd solar a diddordeb yn y stormydd solar diweddar, bydd y canfyddiadau hyn o ddiddordeb i gynulleidfa eang. 

“Mae cannoedd o filiynau o bobl ar draws y byd yn ddibynnol ar adnoddau bwyd y gall morwellt helpu i’w cyflenwi, ond eto prin iawn y gwyddwn am y gyrwyr ar gyfer newid yn y systemau hyn, yn enwedig yn rhanbarth Indonesia a’r Môr Tawel. Mae gan y materion hyn bwysigrwydd enfawr o safbwynt cyflenwad parhaus pysgodfeydd cynhyrchiol, a diogelwch bwyd yn yr ardal arfordirol yn sgil hynny”.

Mae Dr Unsworth yn esbonio yn y papur bod tystiolaeth gref o ddirywio ar raddfa fyd-eang mewn caeau morwellt o ganlyniad i weithgarwch dynol. Mae achosion penodol y dirywiad hwn wedi’u cysylltu ag ystod o ffactorau gan gynnwys ansawdd dwr gwael, carthu a datblygu arfordirol a phorthladdoedd. Er y derbynnir y ffaith fod gweithgareddau dynol yn effeithio a’r iechyd morwellt, mae ystod o yrwyr naturiol hefyd yn effeithio ar forwellt, gan gynnwys amrywiaeth mewn cyflyrau hinsoddol ac amgylcheddol.

Meddai Dr Unsworth; “Mae gwahanu achosion naturiol rhag achosion dynol o newid mewn morwellt yn bwysig yng nghyswllt datblygu strategaethau sy’n lliniaru ac yn rheoli effaith ddynol ar forwellt ac yn hyrwyddo ecosystemau arfordirol sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau amgylcheddol yn y dyfodol.

“Nod yr astudiaeth oedd archwilio dynameg hirdymor morwellt rhynglanw yng Ngogledd-ddwyrain Awstralia i bennu a yw ffactorau amgylcheddol yn ymwneud ag ymbelydredd solar a datguddiad gan y llanw yn cydberthyn â newidiadau mewn tyfiant morwellt ac ar ba radd y mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar y morwellt fwyaf”.

Meddai Dr Unsworth y daeth yr astudiaeth a gynhaliwyd mewn amgylchedd gymharol ddilychwin yng Ngogledd-ddwyrain Awstralia, i gasgliad bod gostyngiad o 54% mewn morwellt dros gyfnod o 11 blynedd yn ganlyniad i gynnydd mewn ymbelydredd solar a chylchoedd o ddatguddio gan y llanw. Mae amrywioldeb amgylcheddol hirdymor naturiol yn effeithio ar gaeau morwellt, ac mae’n rhaid ystyried y ffactorau hyn wrth archwilio colled morwellt o ganlyniad i weithgarwch dynol.

Mae’r papur bellach ar gael ar-lein yn  http://dx.plos.org/10.1371/journal.pone.0034133 Gall aelodau’r cyhoedd yn fyd-eang yn ogystal â’r gymuned wyddonol edrych ar y papur hwn am ddim, a bydd modd iddynt ychwanegu sylwadau ar y safle hwnnw a chymryd rhan mewn trafodaethau gyda’r awduron ac eraill sy’n darllen yr erthygl fel rhan o genhadaeth Mynediad Agored Llyfrgell Wyddoniaeth Gyhoeddus yr Unol Daleithiau (PLoS).

Am ragor o wybodaeth am y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy ewch i: http://www.aquaculturewales.com/index.html

Am ragor o wybodaeth ar Forwellt ewch i: http://en.wikipedia.org/wiki/Seagrass