Y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd yn gwobrwyo “Ysgolheigion” Sbaeneg Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Roedd lle amlwg i Brifysgol Abertawe yn seremoni Dyfarnu Grantiau y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd 2012, pan gafodd dau o’i “hysgolheigion” gydnabyddiaeth am eu gwaith.

Cafodd Katie McErlain, myfyrwraig doethuriaeth ail flwyddyn o’r Adran Astudiaethau Sbaenaidd, Ysgoloriaeth BBVA. Enw ei thraethawd ymchwil yw “A Study of Role-Play in the Comedies of Calderón with Comparative Perspectives relating to English Drama”.

Anglo-Spanish Awards Katie

 

Yn wreiddiol o Norwich, astudiodd Katie, sy’n 26 oedd, yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, am bedair blynedd, lle cwblhaodd radd BA mewn Drama a Saesneg a gradd MA mewn Perfformio a Diwylliant. Ar ôl darganfod dramodwyr Sbaeneg yr Oes Aur (17eg ganrif) ar gwrs hanes theatr yn Goldsmiths, aeth yn ei blaen i gwblhau traethawd hir ar ddramâu Calderón de la Barca. Mae Katie wedi gweithio llawer ar ei Sbaeneg er mwyn ei galluogi i wneud gradd PhD yn yr adran Astudiaethau Sbaenaidd yn Abertawe, gan barhau â’i hymchwil i waith Calderón.

Mae Katie yn gweithio’n bennaf ar ei comedias de capa y espada (dramâu clogyn a chleddyf) Calderón, sef dramâu comig mewn gwirionedd. Mae hi am gynnwys agwedd gymharol gyda Shakespeare yn ei gwaith er mwyn cyflwyno mwy o fyfyrwyr drama/llenyddiaeth Saesneg i’r cyfnod pwysig hwn yn theatr Sbaen, gan fod llawer ganddo i’w gynnig iddynt, a gan ei bod yn teimlo nad yw pobl yn gwybod digon am ddramodwyr yr Oes Aur y tu allan i Astudiaethau Sbaenaidd.

Dywedodd Katie: “Rydw i wrth fy modd ac yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd ac i BBVA am ddyfarnu’r Ysgoloriaeth hon i mi, nid yn unig oherwydd y bydd ei gwerth ariannol yn caniatáu i mi barhau gyda fy astudiaethau, ond hefyd gan fod hynny’n dangos cefnogaeth bwysig i’m prosiect ymchwil ac ymrwymiad i’r gwaith o barhau i astudio’r maes hwn: theatr Oes Aur Sbaen.”

Cafodd Dr Stephen Murrary, cydymaith ymchwil anrhydeddus yng Nghanolfan Ymchwil Polisi Ymfudo’r Brifysgol (yr Adran Ddaearyddiaeth), Fwrsariaeth gan y Gymdeithas am ei ymchwil, 'The Assimilation and Acculturation of the Descendants of early Twentieth-century Spanish Industrial Immigrants to Wales'.

Anglo-Spanish Awards Stephen

Ganed Stephen yn Llanelli. Fe fu’n Uwch Ddarlithydd mewn Economeg a Rheoli ym Mhrifysgol Chilterns Swydd Buckingham, ac mae wedi dysgu mewn prifysgolion, fel darlithydd ar ymweliad, yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a Rwsia. Cwblhaodd ei radd PhD yn Hanes fel myfyriwr aeddfed o Brifysgol Warwig yn 2010. Roedd ymchwil ei ddoethuriaeth yn ymwneud â mudo wedi’i noddi gan undebau llafur o’r Deyrnas Unedig i Ogledd America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Mae’r traethawd yn y broses o gael ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Mae pwyslais ei ddiddordebau ymchwil yn gryf ar sut y gwnaeth disgynyddion ymfudwyr llafur gymathu ac ymddiwylliannu, a chyflwynodd bapurau mewn cynadleddau yn Newcastle ac yng Nghaint yn 2011.

Mae prosiect presennol Stephen yn ymwneud â’r modd y gwnaeth disgynyddion mewnfudwyr diwydiannol o Sbaen yn yr ugeinfed ganrif gymathu/ymddiwylliannu yng Nghymru. Cyflwynodd ei ganfyddiadau cychwynnol mewn gweithdy hanes mudo ym Mhrifysgol Trier yn yr Almaen ym mis Tachwedd 2011. Ariannwyd y prosiect gan y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd (Ysgoloriaeth Prif Gefnogwyr) a chan Eusko Ikaskuntza (Ysgoloriaeth y Gymdeithas Astudiaethau Basgaidd). Ymhellach, cefnogir yr ymchwil gan Brifysgol Gwlad y Basg, Bilbo (Bilbao), lle cafodd ei ethol yn “gydweithiwr allanol” yn y “Grŵp Ymchwil Parhaol ar Astudio’r Berthynas Hanesyddol rhwng Gwlad y Basg a’r Americas”. Mae hefyd wedi gweithio fel gwirfoddolwr ar brosiect Los Niños Prifysgol Southampton, a gofnododd 30 o gyfweliadau straeon bywyd er mwyn cofnodi agwedd bwysig ar Ryfel Cartref Sbaen a’i oblygiadau pan ddaeth tua 4,000 o blant i Southampton ar gwch ym mis Mai 1937, yn ffoi rhag y rhyfel a’i effeithiau.

Dywedodd Stephen: “Mae’r Dyniaethau yn ddisgyblaeth academaidd lle mae’n anodd iawn cael cefnogaeth ariannol o sylwedd ar hyn o bryd. Mae sefydliadau fel y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd yn llenwi’r bwlch, ac wrth wneud hynny maen nhw’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y ddisgyblaeth. Rwy’n gobeithio y bydd y dyfarniad yn helpu llawer o bobl sy’n byw ym Merthyr, Dowlais ac Abercraf i ddeall eu gwreiddiau yn llawnach ac y bydd yn ychwanegu at y wybodaeth sydd ganddyn nhw eisoes ynghylch eu hynafiaid Sbaenaidd.”

Llun cyntaf (o’r chwith i’r dde): Phillip Paddack (BBVA), Katie McErlain, Y Fonesig Denise Holt DCMG (Cadeirydd Ymddiriedolwyr a Chyngor Gweithredol y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd).

Ail lun (o’r chwith i’r dde): Y Fonesig Denise Holt DCMG (Cadeirydd Ymddiriedolwyr a Chyngor Gweithredol y Gymdeithas Eingl-Sbaenaidd), Dr Stephen Murray a D. Federico Trillo-Figueroa (Llysgennad Sbaen).