Timau Paralympaidd yn rhoi awgrymiadau da i ddarpar sêr y dyfodol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd pobl ifanc Abertawe gyfle i redeg a nofio gyda sêr dau o'r timau Paralympaidd gorau mewn digwyddiad yn y ddinas ar ddydd Llun.

Mae'r ddinas yn croesawu timau Paralympaidd o Fecsico a Seland Newydd sydd yng Nghymru i baratoi ar gyfer dechrau'r Gemau ar 29 Awst. Mae tîm Mecsico yn aros ar gampws Prifysgol Abertawe.

Cymerodd y timoedd saib o’u rhaglenni ymarfer prysur i roi cyngor arbennig i athletwyr ifanc a allai ryw ddydd fod yn sêr Paralympaidd eu hunain.

Meddai Deb Shattock, Rheolwr Logisteg Perfformiad Uchel Paralympiaid Seland Newydd (PNZ), "Mae'r Gemau Paralympaidd yn binacl gyrfa pob athletwr anabl ac rydym wrth ein boddau ein bod yn mynd i gemau Llundain yn nes ymlaen y mis yma.

“Rydym wedi bod yn cael amser mor braf yma yn Abertawe. Rydym wedi cael croeso cynnes iawn ac mae'n fynd i fod yn wych treulio ychydig o amser yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon."

Meddai Sergio Durand Alcántara o Bwyllgor Paralympaidd Mecsico, "Mae'n amser cyffrous iawn. Rydym ni i gyd wedi gweld sut mae'r Gemau Olympaidd wedi ennyn y fath ddiddordeb a brwdfrydedd mewn chwaraeon ar draws y byd ac rydym ni'n gobeithio y bydd y Gemau Paralympaidd yn gwneud yr un peth.

“Mae'n bleser cael cyfle i dreulio amser gyda phobl ifanc yn Abertawe. Mae'r athletwyr yn ein tîm yn gwireddu breuddwyd drwy gystadlu yn y Gemau Paralympaidd a byddai'n wych os byddwn yn gallu rhoi ychydig bach o help i bobl ifanc Abertawe er mwyn iddynt hwythau wireddu eu breuddwydion chwaraeon hefyd."

Meddai Alejandro Rodriguez, Rheolwr Tîm Mecsico: “Mae Prifysgol Abertawe’n lle da ar gyfer chwaraeon addasadwy. Mae modd i’r athletwyr gyrraedd pethau heb ormod o drafferth. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn hygyrch iawn. Rydym yn gweithio tuag at ofyn bod hen osodiadau yn fwy hygyrch yn ein cyfleusterau ymarfer cartref - nid oes gan bobman y fath gyfleusterau sydd gan Brifysgol Abertawe.’

Mae tîm Mecsico yn cynnwys 68 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cefnogi ac maen nhw'n gobeithio ennill medalau mewn nofio, athletau a saethu. Mae PNZ wedi anfon tîm o 21 o nofwyr, athletwyr trac a staff cefnogi sydd hefyd yn breuddwydio am gyrraedd y podiwm.

Bydd y timau yn cynnal sesiynau hyfforddi arbennig ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ac ar drac athletau Prifysgol Abertawe gerllaw i bobl ifanc o glwb nofio Stingrays Abertawe, grŵp dysgu nofio'r nofiwr Paralympaidd Stephanie Millward ac Ysgol Pen-y-bryn.

Ar ôl y sesiynau hyfforddi , bydd y bobl ifanc hyd yn oed yn cael cyfle i holi'r athletwyr am eu gobeithion a'u huchelgais ar gyfer y Gemau Paralympaidd.

Meddai Jon Morgan o Chwaraeon Anabledd Cymru, “Dw i'n siŵr y bydd Abertawe a Chymru'n rhoi croeso cynnes iawn i Fecsico a Seland Newydd. Pan fyddant yn gadael am Lundain, bydd ganddynt gefnogwyr brwd iawn yma yn ogystal ag yn eu gwledydd eu hunain.

"Mae llwyddo i ddenu'r ddwy wlad hon i'r ddinas a'i chyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn treulio cyfnod hanfodol o'u paratoadau yng Nghymru ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn dipyn o orchest i Abertawe.

“Bu'n ymdrech anhygoel gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chwaraeon Anabledd Cymru i'w hannog yn llwyddiannus i ddod yma.”