Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Andrea Surridge, Tiwtor yng Ngholeg Gwyddorau Dynol a Iechyd, Prifysgol Abertawe wedi derbyn teitl ‘Nyrs y Frenhines’ gan elusen gymunedol Sefydliad Nyrsio Frenhinol.
Mae’r teitl yn dynodi ymrwymiad i safon uchel o ofal cleifion, dysgu ac arweiniad. Mae nyrsys sy’n derbyn y wobr yn elwa o weithdai, ysgoloriaethau, rhwydweithio yn ogystal â nifer o gyfleoedd eraill.
Roedd Andrea ymhlith trigain o nyrsys eraill ar draws y Deyrnas Unedig i dderbyn y teitl mewn seremoni yn Llundain fis diwethaf.
Meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Nyrsio Frenhinol: ‘‘Llongyfarchiadau i Andrea ar ei llwyddiant. Mae nyrsys cymunedol yn gweithio mewn byd heriol a’n cyfrifoldeb ni yw eu cefnogi hyd gorau ein gallu. Hoffwn annog nyrsys eraill i ymgeisio am y teitl yn y dyfodol.’’
- Dydd Llun 3 Rhagfyr 2012 00.00 GMT
- Dydd Llun 3 Rhagfyr 2012 13.13 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 513454