Sêr rygbi yn dymuno’r gorau i dimau Varsity

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r chwaraewr rhyngwladol Alun-Wyn Jones yn ogystal â chyn hyfforddwr y Gweilch Sean Holley, wedi dymuno pob llwyddiant i Brifysgol Abertawe yn Her Prifysgolion Cymru a gynhelir yfory yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae Alun-Wyn Jones a Sean Holley wedi bod yn hyfforddi tîm rygbi Prifysgol Abertawe dros yr wythnosau diwethaf er mwyn sicrhau eu bod yn barod i wynebu Prifysgol Caerdydd ar 2 Mai.

Meddai Sean Holley: ‘‘Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb fydd yn cystadlu yn Her Prifysgolion Cymru eleni. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau eu hunain ac yn cael diwrnod i’w gofio.’’

Sean Holley

 

 

 

 

 

 

 

Meddai Alun-Wyn Jones: ‘‘Pob lwc i holl dimau chwaraeon Prifysgol Abertawe fydd yn cymryd rhan yn Her Prifysgolion Cymru 2012.’’

Alun-Wyn JonesBydd Gêm y Prifysgolion eleni’n cael ei chynnal ar 2il Mai 2012

Cynhelir Her Prifysgolion Cymru bob blwyddyn rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir dros 25 o gystadlaethau chwaraeon i gyd dros gyfnod o wythnos i ddod o hyd i enillydd teilwng Tarian y Prifysgolion. Mae’r prif ddigwyddiad, y gêm rygbi fawr, yn digwydd ar y nos Fercher yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd. Mynychodd dros 14,500 o gefnogwyr y gêm y llynedd.

Mae’r campau eraill sy’n rhan o’r gystadleuaeth yn cynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-fasged, pêl-droed, pêl-rwyd, cleddyfaeth ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys celfyddydau ymosod. Mae hwn yn ddigwyddiad i godi arian, gyda’r elw’n mynd at nifer o achosion da.