Prosiect Llythyrau Elizabeth Montagu: colocwiwm deuddydd yn Llundain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Iau, 29 Tachwedd, yng Ngholeg y Brenin, Llundain, a dydd Gwener, 30 Tachwedd, yn Amgueddfa’r V&A, Llundain, bydd Prosiect Llythyrau Elizabeth Montagu – rhwydwaith ymchwil wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) – yn cynnal colocwiwm rhyngddisgyblaethol.

O dan arweiniad yr Athro Caroline Franklin o Brifysgol Abertawe a Dr Elizabeth Eger o Goleg y Brenin, Llundain, bydd y digwyddiad deuddydd yn edrych ar offer ac amgylchiadau ysgrifennu merched yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan greu cysylltiadau newydd rhwng testunau a gwrthrychau materol, a chysylltu hanes deallusol gyda’i gyfrwng materol.

Mae’r siaradwyr a’r cyfranogwyr yn cynnwys:

  • Pamela Clemit (Prifysgol Durham)
  • Dena Goodman (Prifysgol Michigan)
  • Peter Stallybrass (Prifysgol Pennsylvania)
  • Karen Harvey (Prifysgol Sheffield)
  • Clare Brant (Coleg y Brenin, Llundain)

Nod Prosiect Llythyrau Elizabeth Montagu yw paratoi golygiad electronig wedi ei anodi’n llawn o lythyrau Elizabeth Montagu.

Yr awdures hon a salonwraig y sanau gleision (1718-1800) oedd llythyrwraig a noddwraig artistig ei chyfnod. Mae’r 8,000 o lythyrau sy’n dal ar gael, sydd ‘ymhlith y casgliadau pwysicaf sydd wedi goroesi ers y ddeunawfed ganrif’ (Schnorrenberg), wedi eu cadw yn y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Bodley a Llyfrgell Huntington, gyda 6,000 ohonynt yn Llyfrgell Huntington.

Does dim mwy na chwarter y dogfennau hyn wedi eu cyhoeddi yn y gorffennol, a hyd yn oed wedyn dim ond mewn detholiadau print rhannol a hynafol.

Mae’r tîm yn cynnal astudiaeth beilot dros gyfnod o 24 mis, yn rhestru ac yn archwilio llythyrau Montagu ac yn llunio’r egwyddorion golygyddol drwy gymryd llythyrwr yr un fel astudiaeth achos.

Y Gynhadledd Deunyddiau Ysgrifennu yng Ngholeg y Brenin ac Amgueddfa’r V&A yw’r trydydd mewn cyfres o dri cholocwiwm i archwilio’r problemau a’r posibiliadau y mae gwaith yr ymchwilwyr yn eu codi. Byddant yn gwahodd golygyddion eraill sy’n brofiadol o ran golygu testunau’r ddeunawfed ganrif, ac arbenigwyr cysylltiedig eraill, megis llyfrgellwyr, curaduron, academyddion, myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar gychwyn eu gyrfaoedd.