Prosiect cod bar yn rhoi Cymru ar flaen y gad

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i roi cod bar DNA i’w planhigion blodeuol. Mae’r garreg filltir wyddonol hon yn agor llu o bosibiliadau ar gyfer dyfodol cadwraeth planhigion ac iechyd dynol.

Cyflawnwyd y gwaith hwn o osod Cymru ar flaen y gad yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a phartneriaid o amryfal brifysgolion, yn cynnwys Abertawe.

Mae prosiect Cod Bar Cymru a arweiniwyd gan Dr Natasha de Vere, Pennaeth Cadwraeth ac Ymchwil yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, wedi creu cronfa ddata o godau bar DNA sy’n seiliedig ar 1143 o blanhigion blodeuol a chonifferau cynhenid Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys trefnu dros 5700 o godau bar DNA.

Nawr mae modd adnabod planhigion o ronynnau paill, darnau o hadau neu wreiddiau, pren, tail, cynnwys stumogau neu samplau amgylcheddol a gasglwyd o’r aer, pridd neu ddwr.

Efallai y bydd codau bar DNA yn gallu helpu’r argyfwng sy’n wynebu ein peillwyr. Mae Dr de Vere yn gweithio gydag Andrew Lucas sy’n astudio tuag at radd doethur (PHD) o Dîm Ymchwil Ecoleg Abertawe (SERT) ym Mhrifysgol Abertawe i ymchwilio i rôl peillio’r pryfed hofran.

Dywedodd Andrew: “Mae pryfed hedfan yn chwarae rôl allweddol yn y broses peillio ond ychydig yn unig a wyddwn am eu hymddygiad. Bydd fy ymchwil yn cynnwys casglu pryfed hedfan a darganfod i ble y maen nhw’n mynd trwy roi cod bar DNA i’r paill y maen nhw’n ei gario ar eu cyrff. Hoffwn wybod mwy am sut y mae pryfed hedfan yn symud trwy’r tirlun a phwysigrwydd ansawdd cynefinoedd.”