Newyddion diweddaraf o IT Wales

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sut y gall Prifysgol Abertawe roi hwb i’ch cyflogadwyedd, a pham y gall cymwysiadau cymdeithasol fod yn waith y diafol. I gael gwybod mwy darllenwch y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn ar-lein IT Wales sydd newydd ei gyhoeddi www.itwales.com

Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys cyfweliad ffilm â’r Athro Hilary Lappin-Scott, pennaeth Academi Gyflogadwyedd Abertawe. Mae hi’n amlinellu pam fod cyflogadwyedd mor bwysig a sut y mae lleoliadau gwaith, megis y rheiny a gynhelir gan IT Wales a GO Wales, mor bwysig. 

Gallwch hefyd glywed darllediad BBC Radio Wales o’r Digwyddiad Technoteach agoriadol ym Mhrifysgol Morgannwg, rhan o brosiect Technocamps gwerth £6 miliwn a ariannir yn Ewropeaidd, sy’n ceisio chwyldroi’r ffordd o ddysgu cyfrifiadureg a chreu rhaglennwyr ar gyfer y dyfodol.