Neges mewn hen fotel?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

A yw’n bosib y byddai Cleopatra wedi defnyddio’r hen fotelau gwydr hyn? A oedd y ffigyrau hyn, 3,000 blwydd oed, yn ‘weision’ yn y bywyd tragwyddol?

Mae’r rhain yn gwestiynau y mae staff sydd wedi’u cyffroi yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe yn gobeithio eu hateb pan fyddant yn astudio casgliad gwerthfawr o dros 30 o wrthrychau Eifftaidd hynafol sydd wedi teithio o Surrey i Abertawe gan gyrraedd yn y ganolfan heddiw.

Egyptian glass bottle

Mae’r arteffactau, a roddwyd gan Goleg Woking, yn cynnwys dwy botel wydr (ar gyfer persawr neu golur o bosib) o gyfnod hwyr yn hanes yr Aifft (c100BC-AD200), tua’r un cyfnod a Cleopatra, a nifer o shabtis (ffigurynnau o weision) yr oedd yr hen Eifftiaid yn credu y byddant yn gweithio dros eu perchnogion meirw yn y bywyd tragwyddol. Mae un o’r shabtis yn ‘shabti goruchwylio’. Roedd shabtis, gan adlewyrchu timoedd gwaith go iawn, yn cael eu trefnu mewn gangiau o 10. Byddai pob gang yn cael ei goruchwylio gan fforman neu oruchwyliwr, Mae’r shabtis oddeutu 3,000 blwydd oed.

 

Mae’r gwrthrychau eraill yn cynnwys amwledau, gan gynnwys amwled o Sekhmet (duwies danllyd a chanddi ben cath) ac amwled arall o Shu (a wahanodd y nefoedd a’r ddaear); pen o’r duw Bes (gwarchodwr plant a menywod yn ystod genedigaeth); crogaddurn mewn siâp lotws neu deyrnwialen bapyrws; sawl dysgl grochenwaith a hebog Sokar (Roedd Sokar yn dduw a oedd yn gysylltiedig ag ailenedigaeth).

Artefacts from Woking College

Cafodd yr hen arteffactau eu rhoi i Goleg Woking yn y 1970au a chawsant eu hailddarganfod gan Martin Ingram, Pennaeth Coleg Woking, a ofynnodd am gyngor yr Amgueddfa Brydeinig i sicrhau y byddai’r casgliad gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i annog myfyrwyr i ddilyn eu hastudiaethau mewn Hanes yr Henfyd. Awgrymodd yr Amgueddfa Brydeinig y byddai’r Ganolfan Eifftaidd, oherwydd ei gwaith addysgol arloesol, yn lle da i roddi’r arteffactau. Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn ddiolchgar i’r Amgueddfa Brydeinig am awgrymu’r Ganolfan.

Bydd y Ganolfan Eifftaidd yn benthyg yr arteffactau gan Goleg Woking am 10 mlynedd yn y man cyntaf. Yn gyfnewid am hyn, bydd y Ganolfan yn trefnu gweithgareddau addysgol ar gyfer Coleg Woking yn ymwneud â’r arteffactau ar fenthyg. Yn y modd hwn rydym yn gobeithio annog rhagor o fyfyrwyr y chweched dosbarth i fynd i’r brifysgol, a gobeithio, i astudio Eifftoleg yn Abertawe hyd yn oed. Mae’r Ganolfan eisoes yn gweithio gydag ysgolion a cholegau yng Nghymru a rhannau o Loegr ond mae’n awyddus i ddatblygu ei gwaith ymhellach gydag Ysgolion Uwchradd a Cholegau Chweched Dosbarth.

Mae Coleg Woking yn goleg chweched dosbarth llwyddiannus tu hwnt, gyda’r mwyafrif helaeth o’i fyfyrwyr yn symud ymlaen i astudio yn y Brifysgol. Meddai Martin Ingram, “Rydw i wrth fy modd y bydd a gwrthrychau ar gael i ddysgwyr ac academyddion a gobeithiaf y bydd ein cysylltiad â Phrifysgol Abertawe yn annog rhagor o fyfyrwyr i anelu at addysg uwch”.

Meddai curadur y Ganolfan, Carolyn Graves-Brown: “ Rydym wrth ein boddau bod Woking wedi caniatáu i ni fenthyg y gwrthrychau hyn. Oherwydd y nifer cyfyngedig o wrthrychau Eifftaidd a gafwyd yn gyfreithlon sydd ar gael i amgueddfeydd, mae’n anarferol tu hwnt i amgueddfa o hynafiaethau Eifftaidd ennill gwrthrychau newydd. Rydym yn gobeithio y bydd yr enillion newydd a chyffrous hyn yn dod â chryn bleser i bobl sy’n ymweld â’r amgueddfa a hefyd yn annog rhagor o fyfyrwyr i fynychu’r Brifysgol.”