Myfyrwyr Uchelgeisiol Abertawe’n dangos eu bod yn “sefyll ben ac ysgwyddau uwchben y lleill”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau fyfyriwr meddygol o Brifysgol Abertawe sydd yn eu 4edd flwyddyn wedi dangos eu sgiliau llawfeddygol eithriadol drwy guro cystadleuaeth gref i ddod yn gyntaf ac yn ail yn rownd ragbrofol Cymru mewn cystadleuaeth sgiliau llawfeddygol cenedlaethol.

Emman Qattan

Enillodd Emman Qattan y gystadleuaeth a daeth ei chydweithiwr, Katherine Hurst, yn ail. Nawr bydd Emman yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y DU ar 9 Mawrth 2013.

Gwnaeth Emman, sy’n dod yn wreiddiol o Saudi Arabia, gyrraedd rownd derfynol y Gystadleuaeth Sgiliau Llawfeddygol genedlaethol ar ôl cystadlu yn erbyn 18 o fyfyrwyr meddygol eraill yn rownd ranbarthol Cymru’r gystadleuaeth drwy arddangos ei hystod o sgiliau llawfeddygol, o bwytho a chlymu clymau i ymgymryd â chyfres o brofion llawfeddygaeth twll clo.

Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin (RCSEd) sy’n trefnu’r Gystadleuaeth Sgiliau Llawfeddygol Myfyrwyr ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae myfyrwyr meddygol o ledled y DU yn cystadlu mewn rowndiau rhanbarthol am gyfle i gael lle yn y rownd derfynol yng Nghaeredin. Bydd y prif enillydd yn ennill trip i Sefydliad Hyfforddiant Llawfeddygol Ewropeaidd y noddwyr Cwmnïau Meddygol Johnson and Johnson yn Hamburg yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Wrth siarad am gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth, meddai Emman Qattan:

“Roeddwn i wedi fy synnu’n llwyr pan gyhoeddwyd mai fi oedd wedi ennill – doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, y cyfan oedd ar fy meddwl oedd cymryd rhan a phrofi’r diwrnod. Roedd y gystadleuaeth yn fwy o hwyl nag yn heriol, roedd pawb mewn hwyliau da iawn ac roedden ni i gyd yn annog ein gilydd, felly doedd hi ddim wir yn teimlo fel cystadleuaeth. 

“Gobeithio y bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn helpu fy uchelgeisiau gyrfaol - mae’n ffordd o ddangos bod gennych ddiddordeb mewn llawfeddygaeth felly mae hynny wastad yn beth positif, ac mae hefyd yn rhoi cyfle da i chi gwrdd â phobl newydd a rhwydweithio. Rwy’n credu bod y ffaith bod gwobr mor dda ar gael i’w hennill yn dweud lot fawr am y Coleg a’r gystadleuaeth. Dydw i ddim yn siŵr a oes gennyf siawns o ennill, ond rydw i jest mor hapus i fod yn cymryd rhan.”

Wrth esbonio mwy am y gystadleuaeth, meddai Angus Roberston, Ymgynghorydd Llawfeddygol Rhanbarthol:

“Mae’n bwysig bod y proffesiwn llawfeddygol yn parhau i ddenu’r rhai hynny sydd â gallu academaidd a sgiliau technegol uchel i lawfeddygaeth. Mae gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin hanes balch o feithrin y rhinweddau hanfodol hyn, yn ystod hyfforddiant a hefyd wrth ymarfer fel ymgynghorydd.

“Trwy’r gystadleuaeth hon a chyfarfod academaidd cysylltiedig, mae myfyrwyr meddygol yng Nghymru wedi cael y cyfle i arddangos eu hymrwymiad i’r hyn sy’n yrfa lawfeddygol gystadleuol iawn ond hefyd yn wobrwyol iawn. Credaf fod safon y gystadleuaeth eleni ar y cyfan yn hynod uchel a thrwy anfon Emman rydym yn anfon ymgeisydd gwych i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol.”

Llun: Ymgynghorwyr Llawfeddygol Rhanbarthol RCSEd Alan de Bolla (ar y chwith) ac Angus Robertson (ar y dde) gydag enillydd Rownd Ragbrofol Ranbarthol Cymru, Emman Qattan sydd yn fyfyrwraig yn ei 4edd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe.