Myfyrwyr Prifysgol Abertawe’n rhagori yng ngwobrau israddedigion y flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Enillodd Prifysgol Abertawe wobr ddwbl yng ngwobrau cenedlaethol Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs yn ddiweddar, gyda dau fyfyriwr yn cyrraedd y rownd derfynol ac un yn curo’r holl gystadleuaeth i ennill un o’r gwobrau mawreddog.

Gyda dau fyfyriwr yn cyrraedd y rownd derfynol, o blith 5,000 o gystadleuwyr, mae Prifysgol Abertawe wedi dangos ei bod yn gallu cynhyrchu myfyrwyr â dawn academaidd gyda’r sgiliau personol y mae cyflogwyr eu heisiau.  

Ollie Brooks  

Enillodd Ollie Brooks, myfyriwr Peirianneg Sifil ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, Gwobr Peirianneg Adeiladu a Dylunio y Flwyddyn, a noddwyd gan Laing O’Rourke a’i wobr yw lleoliad rhyngwladol dros yr haf gyda Laing O’Rourke.Cafwyd 254 o bobl yn cystadlu am y wobr hon drwy gyfres o brofion ar-lein, ffurflenni cais, cyfweliadau ac asesiadau ymarfer. Cododd Ollie i’r brig mewn cystadleuaeth gref tu hwnt. Mae noddwyr dim ond yn targedu nifer gymharol fach o brifysgolion a llwyddodd Ollie i guro cystadleuaeth wych o brifysgolion eraill gwych.

Wrth sôn am y wobr, meddai Ollie: “Cefais fy synnu pan gyhoeddwyd fy enw fel un o’r enillwyr. Yn enwedig gan fod cystadleuaeth mor frwd am y wobr. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fy lleoliad a fydd yn fy helpu i ddilyn gyrfa mewn peirianneg. Byddwn yn annog myfyrwyr eraill i geisio am y wobr y flwyddyn nesaf.”

Alexei smaller  

Cafodd Alexei Nicholas, myfyriwr Peirianneg Fecanyddol ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, ei osod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Myfyriwr Peirianneg Israddedig y Flwyddyn, a noddwyd gan E.ON. Yn anffodus ni fu’n llwyddiannus ond gwnaeth yn dda dros ben i gyrraedd y deg uchaf. Wrth sôn am y gystadleuaeth, meddai Alexei: “Ar y cyfan roedd hi’n brofiad ardderchog a bydd yn beth gwych i’w rhoi ar fy CV a chredaf yn gryf y dylai’r Brifysgol annog ei myfyrwyr i gyd i wneud cais am y gwobrau hyn yn eu meysydd priodol.”      

 

Gwahoddwyd Ollie ac Alexei, ynghyd â naw myfyriwr israddedig yn eu categori i’r rownd derfynol yn Canary Wharf lle y cyhoeddwyd enwau’r enillwyr. Cyflwynwyd deuddeg o wobrau ar y dydd gan Michael Portillo a chafodd pob gwobr ei noddi gan brif gwmni sy’n cyflogi graddedigion: Deloitte, Barclays, Mars, Ernst & Young, Morgan Stanley, Laing O’Rourke, E.ON. EDF Energy, Enterprise Rent-A-Car, BT a Mayer Brown.

 

Photo captions

Picture 1: Ollie Brooks yn derbyn ei wobr Myfyriwr Israddedig Peirianneg Adeiladu a Dylunio gan Michael Portillo a Colin Banks, Cyfarwyddwr Peirianneg Laing O’Rourke.

Picture 2: Alexei Nicholas a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn nghategori Gwobr Myfyriwr Peirianneg Israddedig y Flwyddyn.