Mwynhau yn Nawns Haf Prifysgol Abertawe 2012

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Er gwaethaf y tywydd garw, roedd pob un yn wên o glust i glust yn Nawns Haf Prifysgol Abertawe ar benwythnos y Jiwbilî.

 Ar ôl dechreuad gwlyb diflannodd y cymylau (o’r diwedd) ar gyfer parti haf gwych yn yr ardd ar gyfer penwythnos y Jiwbilî.

 Roedd cymysgedd hyfryd o wisgoedd lliwgar i’w weld, gyda phawb yn edrych yn smart ac yn sionc ymhlith yr ymbaréls a’r fflagiau a’r rhubanau. I sawl un y dewis cyfleus o esgidiau glaw ymarferol oedd trefn y diwrnod! Cawsom lawer o gymeradwyaeth, gwenu a dwylo yn yr awyr yn y pebyll mawr ar gyfer y prif actau, Pixie Lott, Tim Minchin a Queen B. Roedd llawer o sgrechain i’w glywed hefyd o’r ffair gyda lluniaeth ysgafn a byrbrydau yn darparu digon o fwyd a diod i westeion y parti tan yr oriau hwyr.

Roedd y parti hwn yn yr ardd yn bell o fod yn fethiant oherwydd y tywydd. Roedd hi’n ddigwyddiad anhygoel, a fwynhawyd yn fawr, a bydd sawl un yn ei gofio fel rhan o ddathliadau bythgofiadwy Jiwbilî 2012.

Summer Ball 2012  

Ewch i dudalen Flickr Prifysgol Abertawe i weld lluniau anhygoel o’r digwyddiad!