Mae dros 4000 o bobl ifanc yn dysgu sgiliau cyfrifiadurol hanfodol a fydd o fudd i economi ddigidol y dyfodol.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r prosiect Technocamps, y mae dros 2500 o bobl ifanc (11-19 oed) eisoes wedi ymwneud ag ef, ar fin rhoi’r cyfle i 1500 yn rhagor o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn meysydd megis rhaglennu, datblygu apps a dylunio gemau.

Bwriad prosiect ITWales a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg yw cael pobl ifanc yng Nghymru i deimlo’n gyffrous am gyfrifiadura a’u herio i feddwl am y byd o’u cwmpas mewn ffordd wahanol.

Dros y tri mis nesaf, bydd pobl ifanc o amrywiol gefndiroedd yn dod i weithdai a gwersylloedd hyfforddi ledled yr holl brifysgolion sy’n bartneriaid i ni er mwyn mynd i’r afael â Games Salad, Alice, Scratch, App Inventor, Roboteg, Datblygu Apps iOS, Moeseg Gemau Cyfrifiadurol, Sketch Patch a Thechnoleg Wisgadwy.

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, “Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn elwa o’r prosiect ardderchog hwn. Mae’r sgiliau cyfrifiadura sylfaenol y maent yn eu dysgu yn eu paratoi naill ai i barhau â’u haddysg yn y maes hwn neu i ddilyn gyrfa yn y diwydiant cyffrous hwn.

Rydym yn falch iawn bod llawer o’r bobl ifanc yn codi eu dyheadau a’u bod bellach yn ystyried mynd ymlaen i ddysgu ymhellach oherwydd eu profiadau trwy gysyniad Technocamps.”

Lansiwyd gwefan ryngweithiol newydd y prosiect yn ddiweddar sef www.technocamps.com, ac mae’n cynnwys ardal bwrpasol ar gyfer pobl ifanc 11-15 oed a phobl ifanc 16-19 oed, Athrawon ac Addysgwyr, Busnesau a Technozone rhyngweithiol.   

Mae’r wefan ar hyn o bryd yn darparu adnoddau am ddim ar-lein ar gyfer Scratch, Games Salad ac Alice ac mae rhagor ar y ffordd. Bydd hyn yn rhoi’r deunyddiau a’r canllawiau y mae eu hangen ar athrawon ac addysgwyr i deimlo’n hyderus am y maes yn yr ystafell ddosbarth er mwyn i’r bobl ifanc allu barhau i elwa o’r sgiliau newydd hyn.

Bydd gwybodaeth ar gael cyn hir a fydd yn rhoi arweiniad ar sut i ddechrau Technoclub, sef gweithgaredd allgyrsiol a ellir ei gynnal amser cinio neu ar ôl ysgol. Rhoddir nifer o heriau i bobl ifanc eu gwneud yn ystod y clwb er mwyn eu hysbrydoli i barhau i ddysgu mewn ffordd greadigol a hwyl.

Mae’r wefan hefyd yn hyrwyddo digwyddiadau, gweithgarwch Facebook a Twitter yn ogystal â’r Technozone sy’n darparu dolenni i gemau ac eitemau i’w lawrlwytho am ddim, a bydd yr ardal hon yn cael ei datblygu er mwyn dangos y gwaith y mae pobl ifanc yn ei gynhyrchu yn y gweithdai.

Cefnogir y prosiect gan £3.9 miliwn oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ac mae’r prosiect yn darparu cyfres o raglenni allgymorth i ysgolion, colegau a darparwyr addysgol eraill yn ardal gydgyfeirio Cymru. Ceisia’r prosiect ysbrydoli pobl ifanc i ystyried y pynciau sy’n gysylltiedig â chyfrifiadura sy’n sylfaen i bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Uchelgais hirdymor Technocamps yw eu hannog i ddilyn gyrfaoedd mewn maes a fydd yn gyrru twf economaidd yng Nghymru.

Caiff Technocamps ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgolion  Aberystwyth, Bangor a Morgannwg.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân Jones, Rheolwr Cyfathrebu ar 01792 606652 neu anfonwch e-bost i communications@technocamps.com.