Isetholiad Casnewydd yn dal i fod yn Berthnasol Heddiw

Cynhaliwyd un o’r isetholiadau seneddol Prydeinig pwysicaf a diddorol yn ein hanes, yn ôl yr Athro Deacon o Brifysgol Abertawe, 90 mlynedd yn ôl i ddydd Iau diwethaf ar 18 Hydref 1922 yng Nghasnewydd, De Cymru.

Gwnaeth y fuddugoliaeth, gan ymgeisydd Ceidwadol answyddogol, yn groes i ddymuniadau’r glymblaid Ryddfrydol-Geidwadol, dros ei wrthwynebwyr o’r blaid Lafur a’r blaid Ryddfrydol brofi’n dyngedfennol wrth ddod â diwedd i’r glymblaid a arweiniwyd gan Lloyd George.

Gwnaeth hefyd rhagflaenu dymchwel y Blaid Ryddfrydol a dyrchafiad y blaid Geidwadol fel parti llywodraethol a aeth ymlaen i ddominyddu drwy lawer o’r ugeinfed ganrif.

Gan ddefnyddio deunydd ymchwil archif a thrwy ail-archwilio hanesion blaenorol isetholiad Casnewydd, yn ogystal â deunydd newydd, mae’r Athro Deacon o’r Adran Hanes a’r Clasuron yn credu bod modd i ni dysgu llawer o’r digwyddiad hanesyddol hwn, a bod gan y digwyddiad berthnasedd i bartïon gwleidyddol heddiw.

Cafodd y cyfnod rhwng 1916 a 1945 ei ddominyddu gan gyfres o lywodraethau clymblaid, y cyntaf ohonynt yn llywodraeth Ryddfrydol-Geidwadol, a ddaeth i ben yn sydyn ym 1922.

Er yr oedd clymblaid Lloyd George yn effeithiol ar y lefel uchaf daeth yn amhoblogaidd tu hwnt gyda’r cyhoedd, ac yn bwysicach fyth, gyda gwreiddiau partïon y glymblaid ei hun.  Ym mis Hydref 1922, trodd gwrthsafiad i’r glymblaid ar lefel y gwreiddiau yn wrthryfel agored yng Nghasnewydd a ddaeth â’r glymblaid i ben  ar frys.

Meddai’r Athro Deacon, “Mae’r hyn a ddigwyddodd yn isetholiad Casnewydd yn dal i fod yn berthnasol heddiw. Ar ôl isetholiad Casnewydd ni fyddai Lloyd George nac arweinwr y Ceidwadwyr, Austin Chamberlain, byth yn arwain eu parti mewn llywodraeth eto.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn dangos sut y gall partneriaid clymblaid ddadlau a sut y gall arweinwyr golli cysylltiad â gwreiddiau eu partïon eu hunain. Mae hefyd yn wers o ran sut y gall buddugoliaeth ‘sicr’ syrthio o afael eich parti. Mae nifer o’r materion hyn yn dal i fod yn berthnasol heddiw ar y pen-blwydd pwysig hwn.”