Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Yr wythnos hon fe fydd yna dorchi llewys a thiwnio a sgleinio ffyn, peli a racedi wrth i’r brwydro ymenyddol a chorfforol i gipio Tarian Varsity Cymru 2012 ddechrau.
Mae'r orchest benben flynyddol rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn dechrau ar ddydd Sadwrn ar Afon Taf dywyll a brawychus Caerdydd wrth i’r dynion a’r merched daro’u rhwyfau yn y gystadleuaeth rhwyfo.
Bydd timau Prifysgol yn brwydro yn erbyn ei gilydd mewn dros 25 o gampau gwahanol yn ystod yr wythnos er mwyn dod o hyd i enillydd teilwng Tarian Varsity. Gan gyrraedd uchafbwynt yng nghrochan Stadiwm y Mileniwm ar nos Fercher gyda'r gêm rygbi “benben" ganolog. Bu dros 14, 500 o wylwyr yn bresennol yn ystod gêm y llynedd.
Mae’r campau eraill a gynrychiolir yn cynnwys hoci, sboncen, badminton, lacros, rhwyfo, golff, pêl-fasged, pêl-droed, pêl-rwyd, cleddyfaeth ac amrywiaeth o chwaraeon eraill gan gynnwys crefftau ymladd. Mae hwn yn ddigwyddiad i godi arian gyda'r elw yn mynd i nifer o achosion da.
Cafodd Gêm Agoriadol Varsity Cymru ei chwarae ym 1997 ym Mhrifddinas Cymru a chartref Clwb Rygbi Caerdydd, Parc yr Arfau. Chwaraewyd y gêm gan ddwy Brifysgol flaenaf Cymru; Caerdydd ac Abertawe a mabwysiadwyd y model “Varsity” hynod lwyddiannus gyda'r holl elw o'r digwyddiad yn mynd i Oxfam.
Yn y blynyddoedd cynnar cynhaliwyd Gêm Varsity Cymru am yn ail ym Mharc yr Arfau a Sain Helen, cartref Clwb Rygbi Abertawe. Yn 2003 a hyd at 2007 cynhaliwyd y gêm ar dir niwtral Cae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn hanesyddol, Prifysgol Abertawe yw’r ffefrynnau yn y Gêm Varsity Cymru gan ennill hyd yn hyn; 10 Gêm Varsity, colli pedair gwaith gydag un gêm gyfartal.
Prifysgol Abertawe yn gyson wedi mwynhau medru y dewis o gronfa helaeth o chwaraewyr talentog iawn; megis Alun Wyn Jones, Ritchie Pugh, Dwayne Peel sydd oll yn chwaraewyr rhyngwladol cyfredol Cymru a fu’n chwarae yng ngharafannau Varsity Cymru Prifysgol Abertawe. Yn ystod 2007 chwaraeodd dim llai na 11 o chwaraewyr Rhyngwladol FIRA o wahanol oedrannau dros Abertawe a arweiniodd at fuddugoliaeth ym Mharc yr Arfau.
Mae Caerdydd wedi profi llwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil chyflwyno Swydd Pennaeth Rygbi ym Mhrifysgol Caerdydd; fe fu Martyn Fowler, y Pennaeth presennol, yn chwarae rhan annatod ym mhob un o bedair buddugoliaeth Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd yng Ngêm Varsity Cymru gan gipio buddugoliaethau gefn wrth gefn am y tro cyntaf yn hanes y clwb yn 2008/09.
Mae nifer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac Abertawe wedi mynd ymlaen i gynrychioli ac ennill cytundebau gyda chlybiau lled broffesiynol a phroffesiynol llawer yn sgil perfformiadau gwych yn y Gêm Varsity Cymru. Yn 2007 cytunodd y ddwy brifysgol i roi Cap i bob myfyriwr sy'n chwarae yng ngêm Varsity. Mae hyn wedi ychwanegu min ychwanegol i'r hyn sydd eisoes wedi profi i fod yn gêm fwyaf cystadleuol y flwyddyn y ddwy garfan.
Cynhelir Gêm Varsity eleni ar Fai’r 2il 2012.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiad Varsity Cymru, canlyniadau blaenorol a gwybodaeth am frwydr gyffrous eleni ewch i http://www.welshvarsity.com
Ceir gwybodaeth am Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe yma: http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc
- Dydd Mawrth 1 Mai 2012 01.00 BST
- Dydd Iau 22 Mawrth 2018 16.13 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050