Hwb £3miliwn ar gyfer Llythrennedd Digidol a Chyfrifiadureg yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr wythnos diwethaf daeth dros 150 o athrawon o ledled Cymru ynghyd mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe (Mehefin 22ain) pan gyhoeddodd Leighton Andrews AC, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau fuddsoddiad o £3miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi amrywiaeth o gamau i wella cyfrifiadureg, llythrennedd digidol a TGCh mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru.

Yn ei araith, meddai’r Gweinidog fod ‘Cyfrifiadura yn flaenoriaeth uchel ar gyfer twf yng Nghymru. Mae’r cyflenwad a’r galw yn y dyfodol am wyddoniaeth. technoleg a mathemateg yn hanfodol os yw Cymru am gystadlu yn yr economi byd-eang.

Mae felly’n hollbwysig bod gan bob plentyn yng Nghymru y cyfle i astudio Cyfrifiadureg rhwng 11-16 oed.’

Ychwanegodd, ‘Mae’n hanfodol ein bod yn darparu ein dysgwyr gyda digon o gyfleoedd i ymgysylltu â thechnolegau newydd i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar swyddi newydd.’

Tynnodd y Gweinidog sylw at y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ar draws Cymru yn y ddisgyblaeth STEM allweddol hon a phwysleisiodd bwysigrwydd darparu datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon.  

Meddai, ‘Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda phartneriaid cyflenwi megis  Cyfrifiadura yn yr Ysgol a Technocamps i sicrhau bod y rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus hon yn cael ei chydlynu’n dda a’i bod yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau dysgwyr mewn llythrennedd digidol, TGCh a chyfrifiadureg.’

Gwnaeth yr ail gynhadledd flynyddol, a gynhaliwyd gan Cyfrifiadura yn yr Ysgol (CAS) Cymru a Technocamps, ddarparu llwyfan i athrawon, addysgwyr, byrddau arholi, academyddion a llunwyr polisïau drafod y materion o bwys ynghylch addysg cyfrifiadureg yng Nghymru.

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, ‘Mae’r ariannu hwn yn rhoi cyfle gwych i Gymru neidio o flaen rhannau eraill o’r DU yn ei her i gwrdd â gofynion yr economi digidol. Mae Technocamps eisoes wrth wraidd darpariaeth addysg yn y maes hwn a bydd yn parhau i arwain y ffordd wrth ymgysylltu ysgolion a cholegau ar draws Cymru ym maes cyfrifiadureg.

‘Yn hytrach na defnyddwyr technoleg, rydym am i’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw ddychmygu eu hunain fel creawdwyr y Facebook nesaf neu’r genhedlaeth nesaf o smartphone, neu hyd yn oed yn well rhywbeth y tu hwnt i’r dychymyg sy’n mynd i newid y byd.

‘Bydd athrawon ac addysgwyr yn chwarae rhan allweddol wrth wneud i hyn ddigwydd a dyna pam ein bod yn ymbaratoi i ddarparu rhaglen gyda CAS a fydd yn sicrhau eu bod wedi’u cyfarparu i greu’r genhedlaeth newydd o dechnolegwyr.’

CAS/Technocamps conference group

Ymhlith y prif siaradwyr eraill yn y gynhadledd oedd yr Athro Simon Peyton Jones, Ymchwil Microsoft Caergrawnt a Chadeirydd CAS a Maggie Philbin, Darlledwr a Phrif Swyddog Gweithredol TeenTech.

Yn ystod y dydd roedd hefyd sesiynau gweithdy ymarferol i athrawon mewn amrywiaeth o destunau cyfrifiadureg, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Datrys Problemau Algorithmig, Ffuglen Ryngweithiol, Microsoft Kodu, Greenfoot a Modelu Cyfrifiadurol.  At hynny, cynhaliwyd sesiynau grwp i drafod materion polisi a chwricwlwm ehangach.

Ychwanegodd Dr Tom Crick, Cadeirydd CAS Cymru, ac Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd:

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganid clir ynghylch pwysigrwydd addysg cyfrifiadureg. Trwy’r buddsoddiad hwn mewn athrawon a seilwaith, ochr yn ochr â newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm a chymwysterau, bydd Cymru mewn safle da i ennyn diddordeb, ymgysylltu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr a thechnolegwyr. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ehangach addysg STEM, fel yr amlygwyd yn y strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fel galluogydd allweddol ar gyfer adnewyddu economaidd trwy wyddoniaeth ac arloesedd.

Mae CAS yn edrych ymlaen at weithio gyda Technocamps a phartneriaid allweddol eraill i yrru’r agenda gyfrifiadureg ymlaen a chefnogi athrawon ac ysgolion ar draws Cymru.’