Gwyddonwyr yn pwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth mewn gwleidyddiaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Gwener, 7 Rhagfyr 2012 am 12yp, bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cyflwyno Aelodau’r Cynulliad â llyfr newydd Mark Henderson, “The Geek Manifesto: Why Science Matters”.

Dros y ddau fis diwethaf, mae’r gwyddonwyr wedi trefnu ymgyrch lwyddiannus i brynu trigain llyfr, fydd yn cael eu dosbarthu i’r Senedd ynghyd â llythyr personol i bob Aelod Cynulliad.

Meddai trefnydd yr ymgyrch, Dr Fred o Boy o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae llyfr Henderson yn condemnio’r driniaeth mae gwyddoniaeth yn derbyn a’r dystiolaeth a welir mewn gwleidyddiaeth ac yn lleisio pryderon gwyddonwyr proffesiynol ym mhob rhan o’r wlad.’’

Ychwanegodd Dr Chris Chambers o Brifysgol Caerdydd, wnaeth arwain yr ymgyrch: ‘‘Rydym o’r farn ei fod yn holl bwysig bod gwleidyddion yn deall y pryderon yma. Ond yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, rydym hefyd am geisio dod o hyd i atebion.’’

Mae’r ymgyrch yn dymuno creu gwefan sy’n cyfuno arbenigedd miloedd o wyddonwyr i gynorthwyo gwleidyddion i gael gafael ar a dehongli tystiolaeth.