Gwobr i un o Gewri’r Byd Darlledu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dyfernir Gwobr Cyfrwng eleni i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr dylanwadol, John Hefin, am ei gyfraniad allweddol i fyd y cyfryngau yng Nghymru.

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i John Hefin mewn cinio arbennig yng Ngwesty Morgans, Abertawe ar nos Iau 12 Gorffennaf 2012 am 7.30 yr hwyr.

Mae John Hefin yn uchel iawn ei barch oherwydd ei waith ar gyfer BBC Cymru dros y deugain mlynedd diwethaf. Yn ystod ei gyfnod yno fel Pennaeth Drama, bu’n gyfrifol am gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni rhagorol megis Bus to Bosworth gyda Kenneth Griffith, Life and Times of David Lloyd George gyda Phillip Madoc, Tough Trade gyda Sir Anthony Hopkins a’r ffilm fythgofiadwy Grand Slam, gyda Hugh Griffith, Sharon Morgan, Dewi Pws Morris a Siôn Probert.

John Hefin 1

Chwaraeodd ran amlwg hefyd mewn cynyrchiadau fel Penyberth, Un Nos Ola Leuad a'r gyfres drawiadol Cartrefi Cefn Gwlad Cymru ar gyfer S4C ond efallai mai wrth greu’r gyfres sebon boblogaidd, Pobol y Cwm, y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf.

Pobol y Cwm oedd creadigaeth John Hefin ar ddechrau’r saithdegau ar y cyd â’r awdur Gwenlyn Parry. Ac yn sgîl ei waith nodedig ar y gyfres honno, sydd wedi bod yn un o gonglfeini darlledu Cymraeg am ddegawdau, enillodd Pobol y Cwm wobr BAFTA Cymru.

Bu John Hefin hefyd yn weithgar iawn gan roi yn hael o’i amser i nifer o sefydliadau sy’n hyrwyddo ffilm a’r cyfryngau yng Nghymru. Bu’n gadeirydd Comisiwn Ffilm Cymru a’r Wyl Ffilm Geltaidd a bu’n llywio Cyfrwng fel Cadeirydd am ddegawd hyd ei ymddeoliad yn 2011.

Bu John Hefin hefyd yn Gymrawd Dysgu (Ffilm) Prifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd gyda Choleg Cerdd a Drama Cymru lle y bu’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr, perfformwyr ac academyddion ifanc ym maes ffilm a theledu. Yn ychwanegol, derbyniodd MBE am ei wasanaeth i fyd y ffilm yng Nghymru yn 2009, a derbyniodd Wisg Wen yr Orsedd am ei gyfraniad i’r byd teledu.

Dywedodd Pwyllgor Rheoli Cyfrwng am ddyfarniad y wobr hon: “Mae John Hefin yn ymgorfforiad o’r hyn sydd yn cael ei wobrwyo gan Cyfrwng. Mae'r wobr yn cydnabod a dathlu cyfraniad arbennig unigolyn sy’n pontio’r byd academaidd â’r diwydiant cyfryngau ac sydd wedi trwy eu gyrfa hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru. Mae ei gyfraniad o ran cynyrchiadau teledu a ffilm yn sylweddol a bu’n ddarlithydd ysbrydoledig tra’n aelod o staff Prifysgol Aberystwyth i nifer o unigolion sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant ac yn darlithio yn y maes. At hynny, fel Pwyllgor Rheoli Cyfrwng, mae ein diolch yn fawr iddo gan iddo roi yn hael o’i amser i’n harwain yn ddoeth fel Cadeirydd am ddegawd gan lwyddo i sefydlu Cyfrwng yn gonglfaen trafodaeth rhwng y diwydiant a’r byd academaidd yma yng Nghymru."

Cynhelir y seremoni wobrwyo fel rhan o Gynhadledd Cyfrwng eleni, a hynny ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 12-13 Gorffennaf 2012.

Bwriad Cyfrwng yw annog trafodaeth graff ar y cyfryngau yng Nghymru a thema’r gynhadledd fydd y berthynas rhwng llenyddiaeth â’r cyfryngau mewn cenhedloedd bychain.

I gael rhaglen lawn neu ragor o wybodaeth am y gynhadledd, ewch i www.cyfrwng.com neu cysylltwch â Dr Elain Price, drwy ffonio: 01792 602807 neu yrru e-bost at: e.price@abertawe.ac.uk