Driblo a Sgriblo!!!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect canmlwyddiant Swans100 yn gwahodd cefnogwyr talentog yr Elyrch i gofnodi ei darn personol o hanes yr Elyrch drwy ysgrifennu am y gorfoledd, a’r caledi sy’n rhan o’r profiad o fod yn un o gefnogwyr yr Elyrch.

Mae’r prosiect yn rhedeg cystadleuaeth sydd wedi’i rhannu’n ddau gategori:

  • Y gystadleuaeth dan 11 “Pam yr wyf yn Caru CPD Abertawe” – gyda gwobr i’r enillydd
  • Y cyfraniadau traethodau byrion “Pam fod yr Elyrch yn bwysig i chi” – a fydd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan

Hefyd, bydd rhai o’r darnau byrion gan y plant ysgol, y traethodau byrion gan y cefnogwyr a deunydd o arolwg y cefnogwyr yn cael eu cynnwys mewn llyfr ‘hanes y bobl’ a neilltuir yn arbennig i feddyliau ac atgofion cefnogwyr o bob oed.  

Felly peidiwch ag oedi – dechreuwch sgriblo heddiw !

Cystadleuaeth y Plant!

Ydych chi’n cefnogi Abertawe ac yn 11 oed neu’n llai? Ydych chi am ennill pêl-droed wedi’i arwyddo gan chwaraewyr Abertawe? Ydych chi am helpu CPD Abertawe i ddathlu eu pen-blwydd yn 100 oed?

Os mai ydw yw’r atebion i’r cwestiynau hyn i gyd yna dyma’r gystadleuaeth i chi! Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe’n 100 mlwydd oed eleni ac i ddathlu rydym am wybod pam fod plant yn cefnogi’r tîm gorau yng Nghymru. Felly’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu prosiect byr ar y pwnc “Pam yr wyf yn Caru CPD Abertawe”!

Os oes un rheswm neu lawer o resymau gennych pam yr ydych yn caru’r Elyrch, ysgrifennwch nhw i lawr! Os hoffech ychwanegu ychydig o luniau, mae hynny’n wych hefyd! Gallwch ysgrifennu’r prosiect â llaw neu ei deipio’r – does dim ots gyda ni. Y cyfan yr ydym am wybod yw pam yr ydych yn caru’r Elyrch.

Bydd y prosiect gorau yn ennill pêl-droed wedi’i harwyddo gan chwaraewyr Abertawe. Bydd un o’r chwaraewyr hyd yn oed yn ei chyflwyno i’r enillydd! Bydd y prosiectau gorau hefyd yn ymddangos mewn llyfr arbennig a fydd yn cael ei gyhoeddi eleni i ddathlu pen-blwydd yr elyrch yn 100 mlwydd oed.

Anfonwch eich prosiectau at: “Pam yr wyf yn caru CPD Abertawe”, at sylw Philip Bethell, yr Adran Hanes, Prifysgol Abertawe, SA2 8PP

Neu gallwch ei anfon atom drwy e-bost ar swans100@swan.ac.uk

Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys eich enw, oedran ac enw eich ysgol.

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 11 Mai. Rydym yn hapus i dderbyn llwythau o brosiectau ar yr un pryd gan ysgolion.

Gellir cyflwyno prosiectau yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i blant ysgol gynradd 11 oed neu’n iau yn unig. Gellir cynnwys prosiectau mewn cyhoeddiadau yn ymwneud â phrosiect canmlwyddiant Swans100 CPD Abertawe. Am fanylion llawn ynglyn â’r prosiect ewch i www.swans100.com . Os oes unrhyw ymholiad gennych cysylltwch â swans100@swan.ac.uk

Ydych chi am ysgrifennu traethawd byr ar pam mae’r Elyrch yn bwysig i chi?

Gyda’r prosiect yn casglu momentwm a llwyth o ddeunydd a phethau cofiadwy yn ein cyrraedd, rydym yn bwriadu, ynghyd ag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, cyhoeddi pedwar llyfr i gofnodi canmlwyddiant y clwb. Bydd y llyfrau yn ymdrin â’r thema ‘Fy Elyrch’ a bydd un ohonynt yn ‘hanes y bobl’ wedi’i neilltuo’n arbennig i feddyliau ac atgofion cefnogwyr o bob oed. Byddwn yn cynnwys deunydd o arolwg cefnogwyr y prosiect a hefyd darnau byrion gan blant ysgol o ar draws y rhanbarth.

Hoffem gynnwys hefyd draethodau byrion gan gefnogwyr ar pam y mae’r Elyrch yn bwysig iddyn nhw. Dydyn ni ddim am ragor o ddeunydd ar goliau a gemau gwych, ond hoffem gael darnau yn ymwneud â’r gorfoledd a’r caledi o fod yn un o gefnogwyr yr Elyrch. Hoffem gael cyfraniadau sydd ychydig yn rhyfedd, yn ddoniol ac yn deimladwy ond yn bwysicach oll, yn lliwgar ac yn ddiddorol.

Ni fedrwn warantu y byddwn yn gallu cyhoeddi popeth yr ydym yn ei dderbyn yn y llyfr, ond byddwn yn rhoi’r holl gyfraniadau at y prosiect ar y wefan fel y byddent yno ar gyfer y dyfodol.

Ceir pedwar mater ymarferol i’w hystyried:

1. Mae’r hawl gennym i olygu deunydd, er mai ein nod yw cyhoeddi gymaint â phosib fel y cafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol.
2. Gall y darnau fod mor fyr neu mor hir ag yr hoffech, hyd at uchafswm o 1500 o eiriau.
3. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 30 Ebrill.
4. Anfonwch eich cyfraniadau i gyd at swans100@swan.ac.uk