Datgelu Mwy am Ganolfan 360 ar y Maes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Chwaraeon fydd un o’r themau dan sylw ar stondin Prifysgol Abertawe ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hynny brynhawn Gwener, 10 Awst 2012 am 3 o’r gloch.

Bydd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Iwan Davies yn datgelu mwy am Ganolfan Traeth a Dŵr newydd sbon Abertawe, 360 a sefydlwyd nid er elw gan Brifysgol Abertawe a Bay Leisure Limited.

Bydd y Ganolfan, wedi'i lleoli ar flaen y traeth yng nghanol Bae Abertawe, yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon, gweithgareddau a hyfforddiant gan gynnwys syrffio barcud, padl-fyrddio, caiacio, pêl-foli traeth a mwy.

360

Mae gwaith adeiladu'r Ganolfan gwerth £1.4m yn cael ei reoli gan Ddinas a Sir Abertawe ac mae wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a’r rhaglen Ardal Adfywio.

Er mwyn cael blas o’r hyn fydd ar gael yn y Ganolfan pan fydd yn agor ei drysau fis Medi, bydd cystadleuaeth syrffio yn cael ei chynnal ar stondin y Brifysgol gydol y dydd a bydd goreuon y gamp yn cael eu gwobrwyo!

Yn ychwanegol, bydd Dr Kate Evans o’r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnal sesiwn ddifyr ar ei hymchwil ym maes parkour a bydd perfformiad bywiog gan Grŵp Fluidity i gloi’r diwrnod.

360 brand logo

Meddai Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Iwan Davies: ‘‘Bydd 360 yn gyfleuster i'r gymuned leol, myfyrwyr, a thwristiaid fel ei gilydd ac yn ychwanegiad gwerth chweil i’r ddarpariaeth chwaraeon a geir yn Abertawe ar hyn o bryd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at agoriad y Ganolfan pan ddaw’r amser yn ogystal ag at ddatgelu mwy amdani wrth ymwelwyr â maes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.’’

Dilynwch ni ar Twitter: http://twitter.com/#!/Prif_Abertawe  

Dewch o hyd i ni ar Facebook: http://www.facebook.com/#!/prifysgol.abertawe