Cynaladwyedd Prifysgol Abertawe yn cyrraedd y nod

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd gyda’r newyddion ei bod wedi ennill Gwobr Arian EcoCampus mewn cydnabyddiaeth o’i gwaith i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol.

Mae’r Wobr yn amserol gan fod y Brifysgol yn dathlu ei mis cynaliadwyedd cyntaf gyda chyfres o ddigwyddiadau.

Mae’r digwyddiadau’n amrywio o ‘Seminar Speed’ i ginio ‘Cerdded, Sgwrs a Chawl’ ac yn dod i uchafbwynt â’r Brifysgol yn ymuno a miloedd o fusnesau a sefydliadau o amgylch y byd drwy ddiffodd ein golau ar gyfer Awr y Ddaear.

Bydd y digwyddiad “Seminar Speed - Ymchwilio Dyfodol Disgleiriach” yn cyflwyno gwaith ymchwil Prifysgol Abertawe (yn y gwyddorau a’r dyniaethau) sy’n helpu i greu dyfodol sy’n fwy cynaliadwy. Bydd y seminar yn cynnwys ymchwilwyr o Abertawe yn cyflwyno eu hymchwil mewn slotiau 10 munud o hyd ac yn ymdrin ag arloesi mewn pynciau mor amrywiol ag ynni cynaliadwy, cyfraith amgylcheddol, dyframaeth cynaliadwy a rheoli amgylcheddol. 

Mae’r digwyddiad ‘Cerdded, Sgwrs a Chawl’ yn cynnwys taith gerdded o amgylch y campws yn archwilio’r gerddi botanegol arbennig ac yn dysgu am y rhywogaethau a’r cynefinoedd a geir ar y campws gan gynnwys y ty ymlusgiaid hanesyddol a’r dwrgwn, mincod, moch daear a chadnoaid sy’n defnyddio’r campws. Mae’r Brifysgol hefyd yn y broses o ddatblygu Taith Gerdded Bywyd Gwyllt o amgylch y campws.

Mae’r digwyddiadau blaenorol yr ydym wedi’u cynnal wedi cynnwys ein Tîm Cynaliadwyedd yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr eraill ar y prosiect tyfu eich bwyd eich hun, “Bwyta Egin a Dail” ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Roedd y prosiect yn cynnwys clirio tir, adeiladu gwelyau blodau uchel a phlannu cynnyrch i greu “Gardd Gyfrinachol” fel bod modd i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol, dyfu eu cynnyrch iachus eu hunain yn agos i adref.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio tuag at ennill y Wobr Arian ers ymuno ag EcoCampus ym mis Tachwedd 2011. Cafodd y Brifysgol ei harchwilio yn erbyn safonau’r gwobrau Efydd ac Arian ym mis Chwefror 2012 gan y tîm EcoCampus sydd wedi’i leoli yn Nottingham. Mae targedau uchelgeisiol bellach wedi’u gosod i ennill y Wobr Aur erbyn haf 2013, a’r Wobr Blatinwm (y Wobr uchaf) erbyn diwedd 2013. Bydd Tîm Cynaliadwyedd y Brifysgol yn parhau â’r ymdrech a’r ymrwymiad i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol.