Cyfres Darlithoedd Diwinyddiaeth: On Writing Biography

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Caiff y Ddarlith Gyhoeddus Olaf mewn Diwinyddiaeth ar gyfer tymor yr haf hwn ym Mhrifysgol Abertawe ei thraddodi gan y Parchedig Dr Ian Ker, sy'n Offeiriad Catholig ym Mhlwyf Burford, Cymrawd Ymchwil Hyn yn Neuadd St Benet Rhydychen ac yn Ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Father Ian Ker

Teitl: On Writing Biography

Siaradwr: Y Parchedig Dr Ian Ker

Dyddiad: Dydd Mawrth 29 Mai 2012

Amser: 7 pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday 'A', Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad am ddim - croeso i bawb

Mae'r Tad Ian Ker, ysgolhaig Newman sy'n adnabyddus ar draws y byd, yn Gymrawd Ymchwil Hyn yn Neuadd St Benet, Rhydychen ac mae wedi dysgu llenyddiaeth Saesneg a diwinyddiaeth mewn prifysgolion ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau. Mae'n awdur ac yn olygydd ar dros ugain o lyfrau ar Gardinal Newman, gan gynnwys yr hyn y mae'r mwyafrif o ysgolheigion yn ei ystyried fel y bywgraffiad awdurdodol (1988).

Mae'r Tad Ker hefyd yn awdur ar The Catholic Revival in English Literature, 1845-1961 a llawer o gyhoeddiadau eraill hefyd, gan gynnwys ei lyfr diweddaraf, bywgraffiad diddorol tu hwnt ar G.K. Chesterton. Mae'r Tad Ker hefyd yn gwasanaethu fel Offeiriad Catholig ym Mhlwyf Burford. 

Am ragor o wybodaeth: Cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 205678 est. 4442 neu e-bost:  n.john@abertawe.ac.uk