Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Aeth dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe ymhell i chwilio am ffordd o fynd i’r Brifysgol ar feiciau oedd yn gweithio, yn edrych yn dda a heb gostio arian mawr. Felly, yn hytrach na mynd i siop, sefydlon nhw eu cwmni eu hunain.

Mango-bikes

Mae’r cwmni hwnnw “Mango Bikes” newydd gael £50,000 wedi’i ddyfarnu gan yr entrepreneur blaengar a chyd-sefydlydd Innocent Drinks, Richard Reed, sydd wedi bod yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o sêr mawr cychwyn busnes.

Roedd yr entrepreneuriaid Jeremy (Jezz) Skelton a Benedict (Ben) Harrison yn rhannu tŷ ym Mhrifysgol Abertawe pan feddylion nhw am y syniad y dylai pobl allu dylunio’u beic eu hunain. Mae Jeremy newydd raddio gyda BSc mewn Rheoli Busnesau (Marchnata) o’r Brifysgol ac mae Ben yn ei drydedd flwyddyn o’i gwrs BSc Economeg.

Mae Ben a Jezz ill dau wedi bod yn rasio ac yn reidio beiciau ers eu harddegau cynnar.

Bu Ben yn gweithio ar gylchdaith beicio mynydd Cwpan y Byd fel mecanydd i rai o’r timau mwyaf yn y byd ac mae’n gwybod sut i’w hadeiladu a’u cynnal i’r safon uchaf. Mae Ben yn gofalu am ochr prynu, rheoli stoc a logistaidd y busnes. Pan nad yw’n gwneud rhywbeth â 2 olwyn, yn astudio neu’n anfon ei ddyluniadau diweddaraf at y ffatri, bydd yn gwibfarcuta (powerkiting), gwibgartio, neidio oddi ar glogwyn neu’n gwneud rhywbeth lle mae risg ynghlwm - dyna’r rheswm iddo barhau â Mango Bikes yn y lle cyntaf o bosibl!

Mae Jezz yn reidiwr MotoCross brwd ac mae’n gwybod sut i ddyrnu beiciau a dyma beth fydd yn ei wneud pan na fydd yn gweithio ar Mango. Mae Jezz yn gofalu ar ôl ochr farchnata’r busnes. Mae wedi bod yn benderfynol erioed i fod yn bennaeth ar ei hun ac mae’n chwilio am syniadau newydd drwy’r amser. Ffrwyth dychymyg a gweledigaeth Jezz yw brand glân, syml, modern a chŵl Mango.

Mwynhaodd Ben a Jezz eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a theimlant fod y profiad a’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu cwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe wedi’u helpu i ddatblygu a marchnata’u busnes.

Mae helfa Richard Reed i fuddsoddi yn y bobl iawn gyda’r syniadau gorau’n cael ei dangos ar raglen BBC 3 Be Your Own Boss ar hyn o bryd. Dangosodd rhaglen neithiwr, y cyntaf yn y gyfres, Jezz a Ben yn wynebu cystadleuaeth chwyrn ac ar ôl adeg ddirdynnol o aros, gwnaethpwyd Jezz a Ben y tîm cyntaf i gael cyllid gan Richard ar gyfer eu busnes ar y rhaglen deledu.

Mae gan Richard hyd at £1 miliwn i’w buddsoddi yn y bobl iawn gyda’r syniadau gorau. Rhoddodd arian i’r 500 o ymgeiswyr gorau i weld pa mor hawdd y gallen nhw wneud elw. Gan ddiystyru ffyrdd traddodiadol o ddileu, defnyddiodd Richard ei athroniaeth fusnes ei hun i helpu penderfynu pwy ddylai gael y cyfle i droi eu breuddwydion busnes yn realiti.