Casgliad Arteffactau Eifftaidd Hynafol y Ganolfan Eifftaidd yn mynd ar-lein am y tro cyntaf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe yw’r amgueddfa gyntaf ym Mhrydain i weld ei chasgliad cyfan yn mynd ar-lein ar y Grid Diwylliant – cronfa ddata y gellir ei chwilio am gasgliadau amgueddfa, gan ddefnyddio Modes Complete.

Y Ganolfan Eifftaidd yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r meddalwedd Rheoli Casgliadau  Modes Complete diweddaraf i gysylltu â Grid Diwylliant yr Ymddiriedolaeth Casgliadau ac mae’n ymuno â channoedd o sefydliadau eraill yn y DU sy’n rhannu eu casgliadau trwy’r Grid, gyda chyfanswm o oddeutu 2 filiwn o gofnodion.

Ers i’r Ganolfan Eifftaidd agor yn 1998 mae wastad wedi bwriadu gwneud yn siwr bod ei chatalog ar gael mor eang â phosib, ond nid oedd ei chasgliad llai yn adnabyddus iawn ac yn aml byddai’n cael ei anwybyddu gan ysgolheigion hynafiaethau Eifftaidd. Ei nod oedd bod yn rhan o rwydwaith mwy, ond fel amgueddfa fach gydag adnoddau cyfyngedig, roedd y syniad o roi’r casgliad ar-lein a’i gyfuno â chronfa ddata fwy yn ymddangos yn amhosib. Fodd bynnag, gyda datblygiad Modes for Windows a bellach Modes Complete a’r Grid Diwylliant, bu hynny i gyd yn bosib.

 Medd Curadur y Ganolfan Eifftaidd Carolyn Graves-Brown: “Ym mis Mawrth prynon ni’r pecyn Modes Complete gyda chymorth grant gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd  Cymru, a chyda chymorth Modes a’r Ymddiriedolaeth Casgliadau rydym wedi rhoi’n holl gasgliad ar y Grid Diwylliant am fynediad ehangach”.

 Mae Richard Langley, Rheolwr Gwasanaethau Technegol gyda Chymdeithas Defnyddwyr Modes yn cadarnhau ei bod yn hawdd cyhoeddi casgliadau data ar y Grid Diwylliant. Medd: “Y cyfan mae angen i ddefnyddwyr ei wneud yw dewis yr eitemau y maent am eu cynnwys, ac wedyn mae proses un cam yn gwneud y data’n barod i’w lanlwytho i’r  Grid. Mae’n arbennig o hawdd integreiddio â gwefan gan ddefnyddio gwasanaeth gwe-letya Modes, ond mae’n gallu gweithio gydag unrhyw blatfform gwe-letya.”

I gloi, meddai Dr Graves-Brown: “Fel curadur gydag ychydig iawn o wybodaeth am gyfrifiaduron, roeddwn i wir yn synnu pa mor hawdd oedd hi i lanlwytho’n casgliad i’r Grid Diwylliant. Rwy’n gobeithio y bydd gweddill y byd amgueddfa yn rhoi eu casgliadau ar-lein gan fy mod yn sicr mai dyma’r ffordd ymlaen. I ddisgrifio fy nheimladau’n gryno – o’r diwedd!”.

Yn croesawu’r datblygiad newydd hwn, medd Nick Poole, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Casgliadau:  “Mae’r cysylltiad hwn rhwng Modes a’r Grid Diwylliant yn arwain y ffordd ar gyfer integreiddio cynyddol o gasgliadau’r DU a phroffil mwy ar-lein ar gyfer y sector casgliadau cyfan”.