Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 yn Agor

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Agorodd y ganolfan chwaraeon dŵr 360 ar y traeth dros y penwythnos. Mae’r ganolfan yn cynnig sesiynau blas ‘Rhowch Gynnig Arni’ i blant ac oedolion ynghyd mewn amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau gan gynnwys pêl-foli, pêl-droed a rygbi ar y traeth; caiacio; padl-byrddio sefyll a barcud hwylio.

Roedd y ganolfan yn brysur dros ben gyda’r sesiynau i gyd yn llawn o fewn munudau. Dywedodd ymwelwyr bod y cyfleuster a’r gweithgareddau ar gynnig i’w croeso’n fawr yn y Bae.

Meddai Nic, a fu’n ddigon ffodus cael lle ar sesiwn padl-byrddio: “Profiad anhygoel, braf dros ben, ffordd berffaith o dreulio bore dydd Sul”.

Oriau agor arferol 360 bydd rhwng 9am – 9pm 364 dydd y flwyddyn a bydd yn cynnal hyfforddiant mewn ystod o chwaraeon gan gynnwys sesiynau mwy datblygedig mewn chwaraeon megis syrffio barcud, gan ddarparu cyfleuster hanfodol hefyd a fydd yn cynnwys cawodydd a loceri ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r traeth a’r dŵr yn annibynnol.

Yng nghanol y cyfleuster newydd ceir caffi bar wedi’i drwyddedu’n llawn a fydd ar agor 364 diwrnod y dydd ac yn darparu cyfranogwyr a’r gymuned ehangach ag amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd yn y lleoliad unigryw hwn. 

Bydd y cyfleuster newydd sbon, a weithredir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Bay Leisure, yn gwella’r bae yn sylweddol ac yn helpu’r ardal i wireddu ei photensial fel lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer chwaraeon traeth a dŵr.

Gweledigaeth weithredol 360 yw gwella hygyrchedd a chynwysoldeb drwy chwaraeon a dangosodd y penwythnos agoriadol yr holl weithgareddau sydd ar gael yn y Ganolfan a rhoddodd gyfle i bawb roi cynnig ar chwaraeon a phrofiadau newydd sbon am ddim.

Mae’r gwaith o adeiladu’r ganolfan gwerth £1.4m wedi’i rheoli gan Gyngor Abertawe ac mae wedi’i gefni gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a’r rhaglen Ardal Adfywio.

  • Mae’r Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 wedi’i lleoli ar Ffordd y Mwmbwls, Bae Abertawe, gyferbyn â Chae Rygbi a Chriced San Helen. Am ragor o wybodaeth ac am luniau gwych o’r penwythnos agoriadol ewch i www.360swansea.co.uk