Caffi Gwyddoniaeth Abertawe Mis Medi: Y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe yn cynnig cyfleoedd i unrhyw un sydd am ddysgu rhagor am feysydd newydd, cyffrous a dadleuol yn y byd gwyddoniaeth. Wedi’i gynllunio i fod yn anffurfiol ac yn ddifyr, mae mynediad i’r digwyddiad am ddim a bydd sgyrsiau’n dechrau am 7:30pm yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Dr Lyn Evans2 Teitl: Y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN

Siaradwr: Yr Athro Lyn Evans, CERN – y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear


Dyddiad: Dydd Mercher 26ain Medi

Amser: Dechrau am 7.30pm, gorffen tua 9pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe 

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb

Rhagor o wybodaeth: Ar-lein yn http://www.swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/,  neu drwy e-bostio: c.allton@abertawe.ac.uk / e.c.pope@abertawe.ac.uk


Crynodeb o’r digwyddiad:

LHC CERN Mae’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC) yn CERN yn cynhyrchu gwrthdrawiadau proton i broton ar y lefelau egni uchaf sydd erioed wedi’u hastudio. Mae’r rhain yn creu, mewn ardal fach iawn, cyflwr y bydysawd cynnar, biliynfed o eiliad ar ôl ‘y Glec Fawr’!

Mae’r LHC yn anferthol. Mae wedi’i adeiladu mewn twnnel cylch 27km o hud ger Genefa yn y Swistir ac mae’r canfodyddion sy’n ‘tynnu lluniau’ o’r gwrthdrawiadau proton maint adeilad chwe llawr.

Yr Athro Lyn Evans, a raddiodd â gradd mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe ac sy’n Gymrawd Anrhydeddus o’r Brifysgol hefyd, oedd Arweinydd Prosiect yr LHC yn ystod ei gyfnod adeiladu a chomisiynu a bydd yn trafod yr orchest beirianneg a ffiseg a oedd yn rhan o’r gwaith dylunio, adeiladu a gweithredu’r LHC.


Ynglŷn â Chaffi Gwyddoniaeth Cymru:

Bob mis, bydd arbenigwr blaenllaw yn ei faes/maes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer ac yna sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio â diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth yn ymrwymedig i hyrwyddo cysylltiad y cyhoedd â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol.

Cynhelir digwyddiadau Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn gosodiadau hamddenol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maen nhw’n anffurfiol ac yn agored i bawb ac mae mynediad am ddim. Maen nhw fel arfer yn cychwyn â sgwrs fer gan y siaradwr, gwyddonydd neu awdur gan amlaf, wedi’i dilyn gan egwyl gyflym a rhyw awr o drafod wedi hynny.

Mae testunau blaenorol wedi cynnwys mater tywyll, annwyd cyffredin, Dr Who, y Glec Fawr a therapïau amgen.

Cafodd y Cafes Scientifiques  cyntaf yn y DU eu cynnal yn Leeds ym 1998. O hynny allan mae’r caffis wedi lledaenu’n raddol ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd mae rhyw 40 caffi yn cwrdd yn rheolaidd i glywed gwyddonwyr neu awduron yn siarad am eu gwaith ac yn ei drafod â chynulleidfaoedd amrywiol.