Bydd buddsoddiad gan yr UE yn helpu mwy o fusnesau i ddatblygu nanotechnolegau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect wedi’i gefnogi gan yr UE sy’n helpu busnesau i arloesi gofal iechyd meddygol i’w gael ei roi ar waith ar draws Dwyrain Cymru.

Mae Canolfan Nanoiechyd Prifysgol Abertawe (CNH) eisoes yn cydweithio â busnesau ar draws Gorllewin Cymru a’r Cymoedd fel rhan o brosiect gwerth £21m i yrru ymlaen nanotechnolegau a microdechnolegau ar gyfer y sector iechyd. 

Nawr bydd £4m pellach yn cael ei fuddsoddi, gan gynnwys £1.7m o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, er budd BBaChau a chwmnïau mwy yng Nghaerdydd, Casnewydd, Wrecsam, Sir y Fflint, Powys, Bro Morgannwg a Sir Fynwy. Bydd gweddill y cyllid yn dod o Brifysgol Abertawe a’r sector preifat.

Meddai’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Bydd y cyllid newydd hwn gan yr UE yn helpu mwy o fusnesau i aros o flaen y gad ym maes arloesi a thwf yn yr hyn sy’n sector gofal iechyd dylanwadol iawn sy’n datblygu’n gyflym. Mae gan Nanoiechyd y potensial i ddarparu datblygiadau mawr mewn gofal iechyd, a thrwy wneud hynny, bydd yn gyrru arloesedd ac yn rhoi llwyddiant economaidd i Gymru.”

I ddathlu cyflwyniad y prosiect 3 blynedd Nanotechnolegau a Microdechnolegau ar gyfer Gofal Iechyd (NMH), cynhelir digwyddiad lansio heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 21) yng Ngwesty’r Village yng Nghaerdydd, lle bydd busnesau’n gallu dysgu am yr arbenigedd a’r cyfleusterau sydd ar gael yn y Ganolfan NanoIechyd (CNH) sydd o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe a Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) sefydledig a fydd yn arwain y fenter ar y cyd. 

Meddai’r Athro Tim Claypole, Cyfarwyddwr WCPC a’r Prosiect NMH: “Nawr bydd   busnesau ar draws Cymru gyfan yn gallu cael mynediad at sylfaen wybodaeth gost-effeithiol a medrus iawn i gydweithio ar ymchwil a datblygu cynhyrchion, prosesau neu dechnolegau newydd.”

Meddai Dr Matt Elwin, Rheolwr CNH a Chyd-gyfarwyddwr y Prosiect NMH: “Hyd yma trwy’r prosiect presennol, mae CNH yn gweithio gyda thros 20 o fusnesau i ddatblygu  ystod o dechnolegau newydd. Ymhlith y cymwysiadau sy’n cael eu datblygu y mae gorchuddion arbennig ar gyfer clwyfau i gyflymu’r broses wella ar gyfer clwyfau cronig.

“Rydym hefyd yn edrych ar ddatblygu biosynhwyrddion ar gyfer diagnosis gwell o salwch a phigiadau nodwyddau micro ar gyfer rhoi meddyginiaeth. Mae prosiect arall yn archwilio problemau cleifion a chanddynt ffibrosis systig a chyflyrau eraill megis plac deintiol.

“Rydym hefyd wedi helpu i ddatblygu techneg newydd – a ddefnyddir i astudio rhyngweithiadau rhwng proteinau a DNA – i ennill dealltwriaeth gwell o’r mecanwaith sydd y tu ôl i glefydau megis canser a ffyrdd gwell a newydd o’i drin.”

Bydd lansiad heddiw hefyd yn cyflwyno cydweithrediad newydd, rhwng CNH a P&S Nano Ltd – cwmni cychwynnol sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro.

I hwyluso’r cydweithrediad, llwyddodd P&S Nano, trwy weithio gyda staff o’r CNH, i recriwtio myfyriwr, Aled Mathias o’r rhaglen Mynediad at Radd Meistr (ATM) a gefnogir gan yr UE ac sy’n helpu graddedigion i ennill sgiliau uwch drwy gyfleoedd ymchwil a datblygu gyda busnesau.

Wrth ochr academyddion yn CNH, mae Aled wedi cymryd rhan lwyddiannus yn y gwaith o archwilio ffyrdd o roi meddyginiaeth drwy ddefnyddio nanogronynnau/microronynnau wedi’u llwytho â chyffuriau. Mae’r sgiliau a enillwyd wedi helpu Aled i astudio PhD yn y CNH.

Meddai Dr Elwin: “Mae’r fenter newydd hon yn enghraifft ardderchog o sut y gallwn weithio gyda busnesau i ddatblygu technolegau a gwasanaethau blaengar newydd ar gyfer y farchnad. Yn yr achos hwn, i roi cyffuriau drwy glytiau hydrogel i drin cyflyrrau croen, neu dechnegau micro-nodwydd di-boen i drosglwyddo nanogronynnau/microronynnau wedi’u llwytho â chyffuriau trwy’r croen.”

O ganlyniad, mae P&S Nano Cyf bellach am fuddsoddi mewn prosiect blwyddyn o hyd arall gyda CNH.

Meddai Alan Marsh, Rheolwr Gyfarwyddwr P&S Nano: “Mae’r cydweithrediad eisoes wedi darparu canlyniadau gwych ac unwaith y byddwn wedi cwblhau’r profion labordy rheoli ansawdd ar gyfer y broses llwytho cyffuriau, byddwn mewn sefyllfa i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cymhwyso clinigol cyn mynd ati i farchnata.”