Astudiaeth newydd o’r berthynas rhwng Cymru, Israel a Phalestina

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Jasmine Donahaye o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi llyfr sy’n astudio hanes hir y diddordeb Cymreig ym Mhalestina ac Israel.

Mae ‘Whose people? Wales, Israel, Palestine,’ gan Wasg Prifysgol Cymru yn holi cwestiynau treiddgar am y berthynas sydd gan Gymru â sefyllfa Israel-Palestina.

Gan edrych ar ysgrifennu gan genhadon, delweddau ffuglennol o Iddewon, a’r defnydd gwleidyddol o Balestina ac Israel, mae’n herio’r farn arferol am oddefgarwch a rhyddfrydiaeth y Cymry, gan ddisgrifio perthynas gymhleth ac unigryw.

Dr Jasmine Donahaye

Mae gan Dr Jasmine Donahaye radd BA Astudiaethau Celtaidd o UC Berkeley a doethuriaeth mewn Saesneg o Brifysgol Abertawe.

Bellach, mae Dr Jasmine Donahaye yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigo ym marddoniaeth a llenyddiaeth byd natur. Mae wedi cyhoeddi beirniadaeth lenyddol a diwylliannol, gwaith anffuglennol creadigol a barddoniaeth.

Meddai Dr Jasmine Donahaye: ‘‘Y monograff hwn yw’r cyntaf i edrych a holi cwestiynau treiddgar ynglyn â’r agwedd Gymreig tuag at Iddewon, Israel a Phalestina. Bydd yn cyfrannu at y gwaith sydd eisoes yn bodoli yn y maes ac yn cynnig ongl Gymreig ar sefyllfa Israel-Palestina. Bydd hefyd yn herio rhai rhagdybiaethau yng Nghymru.’’

Tynnwyd y llun gan Keith Morris