Arwr Di-glod Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Chris Penn, myfyriwr Peirianneg Sifil, wedi ennill teitl Arwr Di-glod yng ngwobrau blynyddol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) eleni.

Yn ogystal ag astudio ar gyfer ei radd BEng mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe mae Chris wedi rhoi llawer o amser rhydd ac ymdrech i mewn i’r gwaith o hyrwyddo chwaraeon yn y Brifysgol. Mae Gwobr Di-glod BUCS yn cydnabod unigolyn sydd wedi gweithio’n ddiflino a heb gydnabyddiaeth ehangach i gefnogi chwaraeon myfyrwyr ar unrhyw lefel.

Yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Abertawe gwnaeth Chris sefydlu ac arwain gwefan Cyfryngau’r Undeb Athletau (UA), mae wedi cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo digwyddiadau blynyddol Farsity Cymru Abertawe/Caerdydd, mae wedi adrodd ar gystadlaethau BUCS ac wedi helpu wrth hyrwyddo ymdrechion holl dimoedd chwaraeon y Brifysgol.

Bu Chris yn olygydd papur newydd Faristy yr UA, yn cynorthwyo’r tîm digwyddiadau gydag erthyglau ac ysgrifau nodwedd cyson i hyrwyddo Farsity ac ysgrifennodd adolygiad o’r tymor ar gyfer SAIL – Cylchgrawn Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Bu Chris hefyd yn rhan o fyd cyfryngau’r myfyrwyr. Yn ogystal â gweithio gyda’r UA bu hefyd, yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn cyfrannu at The Waterfront (papur Undeb y Myfyrwyr), Radio Xtreme (gorsaf radio Undeb y Myfyrwyr), Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Kukri Sports, gorsaf radio Abertawe The Wave/Swanseasound, Clwb Pêl-droed Crystal Palace a Chlwb Pêl-droed Watford.

Mae Chris bellach wedi rhoi tîm at ei gilydd ac mae’n cynnig ei brofiad i’r tîm ac yn eu helpu i symud ymlaen eu gyrfaoedd eu hunain yn y cyfryngau.

Meddai beirniaid BUCS i Chris dderbyn y wobr gan ei fod wedi ymgolli’n llwyr yn y gwaith o hyrwyddo chwaraeon ei sefydliad a chwaraeon myfyrwyr yn gyffredinol ac wedi adeiladu tîm er mwyn i fyfyrwyr allu datblygu eu sgiliau yn y cyfryngau a defnyddio chwaraeon prifysgol fel ffordd o ddatblygu eu sgiliau a’u huchelgeisiau.

Chris Penn

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Chris:

" Roedd hi’n anrhydedd i gael fy enwebu hyd yn oed – ond roedd ennill y wobr yn anhygoel. Mae’n fraint enfawr i fod y person cyntaf erioed o Brifysgol Abertawe i ennill Gwobr BUCS. Rwy’n gobeithio y gallai hyn arwain at fwy o wobrau yn cael eu hennill gan Abertawe yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rydw i wedi cael cefnogaeth wych gan yr UA, y Brifysgol, Kukri Sports a’m tîm gwych."

 

Meddai Imogen Stanley, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: 'Hoffwn longyfarch Chris ar yr holl waith caled mae wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ac edrychwn ymlaen at ragor o ‘gyfryngau gwyrdd a gwyn’ dros y flwyddyn sydd i ddod. '

Yn y llun: Chris Penn yn derbyn ei wobr gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Lloegr Lewis Moody a chynrychiolydd o noddwr BUCS, PwC.