Annog Astudio Mathemateg: Cyllid ar gyfer Sioe Yrfaoedd Deithiol ‘Maths Apps’ i Ysgolion Uwchradd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Fuoch chi erioed yn dyfalu sut mae'r Mathemateg rydyn ni'n ei ddysgu yn yr ysgol yn cael ei ddefnyddio yn y gweithle? Efallai'n fwy pwysig, ydy ein plant wedi ystyried sut byddan nhw'n defnyddio eu Mathemateg ar ôl gadael yr ysgol? Nod y prosiect hwn, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yw cyrraedd mwy na 2000 o bobl ifanc 13 a 14 oed, a rhoi atebion iddyn nhw.

Mae Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS) wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol (NSA) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), fel bod modd darparu cymhorthdal i gyflwyno'r Sioe Deithiol 'Maths Apps'. Ar y cyd â'n prif bartner, Science Made Simple, nod WIMCS yw cyflwyno'r Sioe Deithiol mewn 24 o Ysgolion Uwchradd ledled Cymru, yn bennaf yn nhymor y gwanwyn 2013.

Datblygwyd y Sioe Yrfaoedd Deithiol 'Maths Apps', sy'n para 50 munud, gyda'n partneriaid Science Made Simple, â chyllid gan EPSRC. Mae Cymru'n ganolog iddi, ac mae'n canolbwyntio ar 5 unigolyn sy'n gweithio yng Nghymru a'u swyddi penodol. Mewn cyfweliadau a ffilmiwyd maen nhw'n esbonio pam mae Mathemateg yn bwysig i'w gwaith, ac mae Cyflwynydd Sioe Deithiol Science Made Simple yn ategu'r negeseuon Mathemateg mewn arddangosiadau rhyngweithiol sy'n defnyddio Mathemateg mewn ffyrdd ymarferol. Mae'r swyddi yn amrywiol iawn – o redeg busnes personol, i wyddor chwaraeon, i radioleg mewn ysbyty, i ddatblygu gêmau cyfrifiadur, i ddylunio cerbydau.

Ar adeg pan fo'r economi mewn sefyllfa sy'n golygu bod angen mwy o bobl ifanc cymwys i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd gwyddonol, technolegol a chyfrifiannol, mae WIMCS a'u partneriaid yn gwbl sicr bod mentrau fel hon yn hanfodol. Mae'r mwyafrif o bobl yn defnyddio Mathemateg wrth eu gwaith, yn aml heb sylweddoli hynny, ac mae Mathemateg yn elfen allweddol o bob gyrfa wyddonol. Y gobaith yw y bydd cyfuno ychydig o hwyl Mathemateg â chipolwg ar sut defnyddir Mathemateg mewn swyddi yn rhoi anogaeth i fyfyrwyr yn eu hastudiaethau Mathemategol.

Mae'r sioe ‘Maths Apps’ wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn ac adolygiadau rhagorol.

Dyma rai o sylwadau’r Myfyrwyr:

  • Mae'n dangos pa mor ddefnyddiol yw mathemateg at y dyfodol.
  • Roedd yn llawn hwyl a gwybodaeth, ac yn mynd â'r pwnc allan o'r dosbarth mewn modd llwyddiannus iawn. Gwych!

Mae Adroddiad Gwerthuswr Annibynnol ar gael gan WIMCS.

Y gynulleidfa darged yw plant blynyddoedd 8 a 9, a gwahoddir ysgolion i gyflwyno cais trwy gysylltu â Science Made Simple ar 02920 876884 cyn gynted â phosib, gan nad ydym yn debygol o fod mewn sefyllfa i allu ymateb i'r holl alw.