Angen gwaed newydd? Cwrs arloesol yn Abertawe’n golygu gwell gofal i gleifion y mae angen trallwysiadau gwaed arnynt

Bydd modd i nyrsys a fferyllwyr cymwysedig, yn ogystal â meddygon, awdurdodi trallwysiadau gwaed i gleifion, diolch i gwrs newydd, y cyntaf yng Nghymru, sydd wedi’i achredu gan Brifysgol Abertawe a’i ddatblygu mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Bob blwyddyn caiff oddeutu 100,000 o roddion gwaed gwirfoddol eu casglu a’u rhoi i gleifion yng Nghymru drwy drallwysiadau. Ar hyn o bryd, dim ond meddygon sy’n gallu awdurdodi trallwysiadau. 

Gall hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i awdurdodi’r weithred helpu lleihau’r amser y mae’n rhaid i gleifion aros. Yn ogystal â hyn, mae nifer o gleifion y mae angen trallwysiadau arnynt yn aml yn nabod eu nyrs neu eu fferyllydd yn well na’u meddyg, ac i’r gwrthwyneb.  

Esboniodd Megan Rosser, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol Parhaus yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd:

Roedd ein grŵp cyntaf o fyfyrwyr yn cynnwys 10 nyrs a 2 fferyllydd o feysydd megis gofal dwys pediatrig, arennol, haematoleg, a’r uned canser i blant yn eu harddegau. Mae’r cwrs yn cynnwys dau fodiwl, un ohonynt yn ddamcaniaethol a’r llall yn seiliedig ar waith, gyda myfyrwyr llwyddiannus yn ennill tystysgrif i raddedigion neu dystysgrif ôl-raddedig.  

“Os oes angen gwaed ar ein cleifion, gallant ddod o hyd iddo bellach yn syth; nid oes rhaid iddynt aros i’r meddyg ‘ar alwad’ ddod a gofyn amdano”.

Cafodd clinigwyr ran flaenllaw wrth ddatblygu’r rhaglen, a lansiwyd gan weinidog iechyd Cymru, Lesley Griffiths.  Gwnaeth tîm Trallwysiadau Gwaed Gwell Cymru ofyn am raglen fel hyn, a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe oedd y cyntaf yng Nghymru i’w gweithredu.

Meddai Gail Mooney, cyfarwyddwr astudiaethau ôl-raddedig yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd:

Roedd hi’n gyffrous gweithio ar y cwrs ac ehangu rolau pobl. Rydw i wedi dysgu llawer gan yr holl glinigwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu a darparu’r rhaglen.