Y Sefydliad ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arweinyd

  • Y Sefydliad ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arweinyddiaeth

    Mae'r Sefydliad ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arweinyddiaeth yn rhoi ffocws a chefnogaeth academaidd a gweinyddol ar gyfer cyflwyno rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a "gweithredwyr", sef rhaglenni sy'n canolbwyntio ar reolwyr ymarferwyr ac arweinwyr busnes gyda phwyslais arbennig ar y rheiny mewn busnesau bach a chanolig. Mae'r Sefydliad wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe.

    Mae'r Sefydliad yn cefnogi gwaith datblygu sgiliau myfyrwyr mewn entrepreneuriaeth a menter, gan fod y gwaith datblygu hwn eisoes yn digwydd yn y brifysgol, wedi'i reoli ar hyn o bryd yn yr Ysgol Busnes ac Economeg. Mae hefyd am geisio datblygu a dyfnhau cysylltiadau rhwng y gweithgareddau hyn a'r gymuned fusnes ranbarthol.

    Mae lleoli ei hun fel canolfan ar gyfer datblygiad yr economi wybodaeth yn y rhanbarth yn elfen hollbwysig o ymagwedd strategol yr Ysgol a'r Brifysgol ar hyn o bryd. Wrth i'r brifysgol geisio ymgysylltu â busnesau lleol a'u cefnogi, yn enwedig y rheiny sydd yn chwe "sector blaenllaw" Llywodraeth y Cynulliad  (Rhaglen Adnewyddu'r Economi, 2010), rôl y Sefydliad hwn yw hybu datblygu sgiliau rheoli ac arwain, a gweithgarwch datblygu sgiliau priodol ar gyfer myfyrwyr, a hynny er mwyn ategu'r cymorth gwyddonol a thechnegol y gall y Brifysgol eu darparu.

    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Corina Edwards, neu ffoniwch +44 (0)1792 513709.