• MBA

    I ymgeiswyr sydd eisoes â phrofiad mewn agweddau ymarferol o reoli, mae'r rhaglen gradd Meistr Gweinyddu Busnes yn cynnig set gynhwysfawr o sgiliau, a gwybodaeth drylwyr o'r prif ddisgyblaethau rheoli. Mae'r MBA ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen ddeuddeg mis llawn-amser.

    Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig rhaglen MBA Gweithredol (Executive MBA), sydd wedi'i hanelu at reolwyr sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad gwaith ac sydd bellach yn dymuno mynd i'r afael â'u dyheadau personol a datblygu gyrfa trwy ddechrau ar raglen datblygu rheolwyr sy'n werth chweil ac yn ymarferol.

    Datblygwyd y rhaglen MBA Gweithredol o'n MBA llawn-amser sydd wedi hen ennill ei thir; mae'r rhaglen newydd yn cynnwys cyflwyno'r rhannau dysgu craidd ond gwneir hynny mewn strwythur sydd yn llawer mwy priodol ar gyfer rheolwyr nad ydynt yn gallu fforddio'r moethusrwydd o gymryd blwyddyn i ffwrdd o'r byd gwaith ar gyfer dibenion datblygu gyrfa.