• LEAD Cymru

    Mae rhaglen LEAD Cymru wedi'i chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion busnesau bach a chanolig yn ardal Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.

    Cefnogir y fenter bwysig £8 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad a £5 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

    Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddau faes y busnes: sef y busnes ei hun a datblygiad personol y rheolwr-berchennog. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer cynyddu elw er mwyn galluogi arallgyfeirio a chefnogi twf busnes.

    Cynlluniwyd y rhaglen i gwrdd ag anghenion penodol perchnogion-reolwyr, ac felly mae'n cyfuno addysgu gweithredol â dysgu drwy weithredu. Anogir cyfranogwyr i rannu gwybodaeth a phrofiad gyda'u cyfoedion ac i gymhwyso'r hyn y maent yn ei ddysgu i'w sefyllfa busnes eu hunain.

    Mae pob rhaglen waith 10 mis yn cynnwys gr?p o hyd at 25 o berchnogion-reolwyr. Trwy gydol y rhaglen, cefnogir pob un sy'n cymryd rhan gan gymysgedd o arbenigedd o du academyddion, mentoriaid profiadol a hyfforddwyr proffesiynol allanol. Yn ogystal, caiff y cyfranogwyr gefnogaeth gyson aelodau eraill eu grwp.

    Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y prosiect, www.leadwales.co.uk