- Hafan
- Busnes
- Yr Adran Ymchwil ac Arloesi
- Cyfnewid Gwybodaeth Cymru
Cyfnewid Gwybodaeth Cymru
-
Cyfnewid Gwybodaeth Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor wedi dod ynghyd i ffurfio rhwydwaith busnes newydd a chyffrous, sef Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW), a hynny er mwyn cynnig eu harbenigedd a'u cyfleusterau arbenigol i fusnesau.
Bydd KEW yn galluogi prifysgolion a busnesau i estyn allan at ei gilydd er mwyn ysgogi prosiectau ar y cyd gyda phartneriaid o'r un anian.
KEW yw'r unig rwydwaith busnes yng Nghymru sy'n aelod o Global CONNECT, sef rhwydwaith buddsoddi ac arloesedd busnes byd-eang sy'n hynod lwyddiannus, a thrwy hyn mae KEW yn rhoi cyfleoedd i'w aelodau dyfu a datblygu yn rhyngwladol.
Ewch i Cyfnewid Gwybodaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth, i gael rhestr o ddigwyddiadau wedi'u cynnal gan y rhwydwaith, ac i gofrestru i ddod yn aelod.