Peirianneg

Peirianneg yn Abertawe

Ar ôl ei chreu ym 1920, sefydlodd Prifysgol Abertawe ei hun yn gyflym fel canolfan academaidd wyddonol a thechnegol i gefnogi diwydiannau trwm blaenorol de Cymru, a Pheirianneg oedd un o’i phynciau cyntaf.  Hyd heddiw, mae’r Coleg Peirianneg yn parhau i ymdrechu i wneud gwahaniaeth a sicrhau bod ein haddysgu ac ymchwil yn cael effaith wirioneddol ar fusnes a diwydiant.

Mae'r ymchwil sy'n ymddangos isod yn sampl bychan o'r amrywiaeth enfawr o brosiectau a mentrau ym Mhrifysgol Abertawe. Am fanylion llawn ymchwil pob Coleg, cewch lawrlwytho pennawd perthnasol Breakthrough (ar y dde), neu cewch ddilyn y dolenni.