Cyngor Hygyrchedd

Sut ydw i'n cynyddu maint y ffont ar fy mhorwr gwe?

Systemau Windows:

Gwasgwch y fysell Ctrl a'i dal i lawr, yna gwasgwch yr arwydd - neu + (sydd fel arfer wedi'u lleoli wrth ymyl y fysell backspace) hyd nes y deuir o hyd i’r maint priodol.

Systemau Mac:

Gwasgwch a daliwch y fysell Option neu Alt i lawr, y fysell Orchymyn, yna gwasgwch yr arwydd - neu + a hyd nes y deuir o hyd i’r maint priodol.

Sut ydw i'n "panio a sganio" pan fo'r testun wedi'i wneud yn fwy?


Defnyddiwch y saethau i fyny / i lawr a chwith / dde ar eich bysellfwrdd


Sut ydw i'n lansio'r feddalwedd zoom sydd wedi'i mewnosod?

Windows Vista a 7:

Cliciwch ar y logo Windows ar waelod y sgrin ar yr ochr chwith; teipiwch ‘magnify' yn y blwch chwilio. Cliciwch ar yr eicon sy'n ymddangos i lansio'r feddalwedd.
Windows Vista a 7 (arall):

Gwasgwch y fysell Windows a'i dal i lawr, yna gwasgwch y fysell r. Teipiwch 'magnify' yn y blwch sy'n agor, yna gwasgwch enter i lansio'r feddalwedd

Systemau mac:

Gwasgwch y fysell Option neu Alt a'i dal i lawr, y fysell Orchymyn, yna gwasgwch y fysell 8. Fel arall, gwasgwch y fysell Swyddogaeth, y fysell Orchymyn a'r fysell F11.

  
Sut ydw i'n galluogi'r lliwiau cyferbyniad uchel?

Windows Vista a 7:

Gwasgwch alt, y fysell shift ar y chwith a'r fysell gofynion sgrin brintio ar yr un pryd.

Mac OSx:

Gwasgwch y botymau Shift, Alt, Apple ac 8 ar yr un pryd.

Sut ydw i'n newid lliw cefndir y tudalennau sy'n ymddangos yn fy porwr gwe?

Internet Explorer:

    Cliciwch ar y ddewislen offer (yr eicon offer, ochr uchaf y dudalen ar y dde). Cliciwch ar y botwm 'Accessibility'
    Dewiswch yr opsiwn "Ignore colors specified on web pages”
    Cliciwch y botwm 'OK'
     Nesaf, cliciwch y botwm 'Colors', gan osod y lliwiau yn ôl eich dewis.

Firefox:

    Cliciwch y ddewislen Firefox yn ochr uchaf y dudalen ar y chwith, yna options, ac yna content.
    Cliciwch "lliwiau", yna dad-diciwch "use system colours" ac "and allow pages to use their own colours".
    Dewiswch y lliw cefndir yr hoffech ei ddefnyddio.