Anableddau@ BywydTawe

Anableddau@BywydCampws

Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, cysylltwch ag Anableddau@BywydCampws i gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall. Mae Anableddau@BywydCampws yn rhan o’r Gwasanaethau Myfyrwyr, sy’n siop un stop ar gyfer unrhyw gyngor neu arweiniad y mae arnoch eu hangen.
Bydd y tudalennau hyn yn rhoi gwybod i chi am y cymorth a’r arian sydd ar gael.

Datganiad Cenhadaeth

"Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad proffesiynol i fyfyrwyr anabl, myfyrwyr ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol, o’r adeg gwneud cais hyd at y diwrnod graddio. Ein nod yw cael gwared ar arferion gwahaniaethol, sicrhau cyfleusterau hygyrch a darparu gwasanaethau hyblyg i fyfyrwyr y mae arnynt angen cymorth drwy barhau i adolygu a gwella ein gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau arfer gorau”.